24.10.2024

Prosiect Halogion: Adolygiad 12 Mis

Ers ei gyflwyno ym mis Medi’r llynedd, mae'r Prosiect Halogion, dan arweiniad y Gweithgor Halogion, wedi datblygu a chyflwyno gwelliannau sylweddol i iechyd a diogelwch Diffoddwyr Tân ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Ers ei gyflwyno ym mis Medi’r llynedd, mae'r Prosiect Halogion, dan arweiniad y Gweithgor Halogion, wedi datblygu a chyflwyno gwelliannau sylweddol i iechyd a diogelwch Diffoddwyr Tân ar draws Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Lansiwyd y Prosiect yn dilyn amrywiaeth o astudiaethau yn tynnu sylw at y ffaith bod diffoddwyr tân yn cael eu hamlygu i fwy o halogion mewn tanau, sy'n gysylltiedig â chyfraddau uwch o ganser a phroblemau iechyd meddwl.  Mae'r Gweithgor yn cynnwys personél gweithredol ac anweithredol o sawl adran ar draws y Gwasanaeth, gan roi trawstoriad amrywiol o'r gweithlu sydd wedi sicrhau bod y Gweithgor wedi datblygu atebion effeithiol i rai o'i heriau.

Er mwyn datblygu arferion gwaith gwell, mae'r Gweithgor wedi treulio sawl adroddiad, gan gynnwys argymhellion gan FBU / UCLAN – Minimising firefighters’ exposure to toxic effluents sy'n darparu arfer da ar gyfer delio â halogion tân. Ar ben hyn, mae aelodau'r gweithgor wedi bod yn rhan o lawer o weithgorau cenedlaethol gan gynnwys grŵp Asesu Risg Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC), Pwyllgor Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) NFCC a grŵp Cyfarpar Diogelu Anadlol (RPE) NFCC sy'n sicrhau ein bod fel Gwasanaeth ar flaen y gad o ran arfer gorau a datblygiadau yn y sector GTA.

Wrth siarad am 12 mis diwethaf y Prosiect Halogion, dywedodd Arweinydd y Prosiect, y Rheolwr Grŵp Simon Pearson:

"Pan ymunais â'r Gwasanaeth 29 mlynedd yn ôl, byddai Gorsafoedd Tân yn arogli o fwg ond, diolch byth, nid yw hyn yn wir nawr. Rydym yn sicrhau bod ein Diffoddwyr Tân yn dilyn y rhagofalon angenrheidiol ar ôl iddynt fod yn bresennol mewn digwyddiad gyda thân neu sylweddau niweidiol. Maent yn cael cawod yn y ffordd gywir, yn rhoi eu cit tân budr mewn bag cyn mynd yn ôl i'r injan dân ac yn ei adael y tu allan i'r Orsaf Dân, ac yn rhoi eu setiau offer anadlu y tu allan i gab y criw. Mae'r gwelliannau hyn yn amddiffyn ein Diffoddwyr Tân rhag cynhyrchion niweidiol ymlosgiad."

Y Rheolwr Grŵp Simon Pearson - Arweinydd y Prosiect Halogion


Mae gwella’r cyfathrebu mewnol â staff gweithredol wedi bod yn rhan allweddol o'r Prosiect Halogion.

Mae cyflwyno Nodyn Gwybodaeth Weithredol wedi rhoi arweiniad rheolaidd i griwiau i sicrhau bod cit diffodd tân budr yn cael ei drin yn effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau diogelwch Diffoddwyr Tân a’r personél sy’n casglu’r cit i gael ei lanhau’n broffesiynol, yn ogystal â chadw cabiau’r injanau tân yn lân. Mae Arweinydd y Prosiect wedi rhoi cyflwyniad ar y prosiect i dros 70 o wylfeydd a Gorsafoedd Tân, ac mae hynny wedi darparu adborth gwerthfawr trwy gyfrwng trafodaethau agored a gonest.

Datblygwyd pecyn hyfforddi newydd sy'n cael ei ddarparu ar bob cwrs Offer Anadlu, gan sicrhau bod  yr holl bersonél gweithredol yn cael mewnbwn halogion tân bob dwy flynedd, sy'n argymhelliad allweddol o adroddiad Undeb y Brigadau Tân/Prifysgol Canolbarth Swydd Gaerhirfryn (FBU/UCLAN). 




Injan Dân newydd gyda chwpwrdd ar wahân ar gyfer cit diffodd tân.




Diffoddwyr Tân yn ystod digwyddiad.



Mae aelodau'r Gweithgor wedi cyfarfod â darparwr Iechyd Galwedigaethol y Gwasanaeth i drafod y rôl bwysig y mae monitro a gwyliadwriaeth iechyd yn ei chwarae o safbwynt iechyd Diffoddwyr Tân. Mae'r Gweithgor wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth o Godau Read, sef codau y gall unigolion eu cofrestru gyda'u meddyg teulu ac a all arwain at ddiagnosis cyflymach a mwy cywir o broblem iechyd.

Dywedodd Dirprwy Brif Swyddog Tân GTACGC, Iwan Cray:

"Eisoes, datganodd Sefydliad Iechyd y Byd fod Diffodd Tân yn broffesiwn carsinogenaidd ac rydym yn gwybod bod ein Diffoddwyr Tân yn mynd i ddigwyddiadau peryglus ac y gallent gael eu hamlygu i sylweddau niweidiol yn ystod eu gyrfaoedd. Mae Gweithgor y Prosiect Halogion wedi bod yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â'r heriau a wynebir a bydd yn parhau i wella a mynd i'r afael â'n hymateb i leihau amlygiad Diffoddwyr Tân i halogion."

Iwan Cray - Dirprwy Prif Swyddog Tân


Mae datblygiadau gan y Gweithgor yn y dyfodol yn cynnwys ymchwilio a datblygu'r egwyddor o bennu ardaloedd o fewn Gorsafoedd Tân a'u hamlygu fel ardaloedd gweithredol ac anweithredol. 

Bydd hyn yn cynorthwyo criwiau i gynnal amgylchedd gwaith glanach, gan nodi lleoliadau yn yr orsaf lle bydd offer gweithredol neu git tân wedi'i storio o bosibl.    


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf