Am ei gwaith fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, dywedodd Mel:
"Er fy mod yn dal yn fy mlwyddyn gyntaf fel Diffoddwr Tân Ar Alwad, rwy'n mwynhau fy rôl yn fawr.
Rwy'n mwynhau'r cynnwrf o ymateb i ddigwyddiad a gweld fy mod yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned ac i bobl mewn angen. Rwyf hefyd wedi mwynhau’r hyfforddiant sy’n dod fel rhan o’r rôl. Yn ddiweddar fe wnes i gwblhau fy hyfforddiant ar gyfer ymateb i ataliad ar y galon, a fydd yn gwella gallu’r Orsaf Dân i ymateb i sefyllfaoedd.
Mae’r canfyddiad hen ffasiwn yn dal i fodoli, sef na all menywod fod yn Ddiffoddwyr Tân, ond rwy'n brawf y gall menywod ddod â chryfder a safbwyntiau amrywiol i broffesiwn sy'n elwa o gynwysoldeb a gwaith tîm.
I unrhyw un sy'n ystyried dod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad, byddwn yn eu hannog i fynd amdani - dyma'r peth gorau dwi wedi ei wneud."