Dechreuodd gyrfa Euros gyda GTACGC, a elwid bryd hynny yn Frigad Tân Dyfed, yn 1979. Cafodd ei ddyrchafu’n Ddiffoddwr Tân Arweiniol yn 1987 ac yn Is-Swyddog yn 1988. Mae Euros wedi gwasanaethu cymunedau Sir Benfro a GTACGC yn ffyddlon ers dros 40 mlynedd ac wedi chwarae rhan flaenllaw wrth gynnal lefelau uchel o argaeledd yng Ngorsaf Dân Crymych yn ystod y cyfnod hwn.
Yn 1998, roedd yn rhan allweddol o’r gwaith o gyflwyno cynllun Cyd-ymatebydd gwirfoddol i Grymych, menter sydd wedi rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i wasanaethau Ambiwlans lleol ac wedi achub llawer o fywydau yng nghymunedau Gogledd Sir Benfro. Er mwyn cefnogi'r cynllun Cyd-ymatebydd, mae Euros hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth godi dros £40,000 i brynu cerbyd newydd ar gyfer yr Orsaf Dân, ac mae hynny’n dangos ei awydd a'i ymrwymiad i gefnogi ei gymuned leol.
Wrth dderbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig, dywedodd y Rheolwr Gwylfa Euros Edwards: