Ddydd Iau, 30 Gorffennaf, cynhaliodd Gorsaf Dân Doc Penfro Ddiwrnod Agored gan roi cyfle i’r cyhoedd ymweld â'r orsaf a chymryd rhan mewn diwrnod llawn gweithgareddau.
Roedd amrywiaeth eang o adloniant gan gynnwys ymweliad gan Dre Twt - canolfan chwarae rôl i blant, gorsaf socian, DJ, raffl, stondin gacennau, cyfle i gwrdd â Sbarc, masgot cyfeillgar ein Gwasanaeth, a llawer mwy.
Yn ystod y dydd, cynhaliodd criw'r orsaf arddangosiadau byw, gan gynnwys senario Gwrthdrawiad Traffig ar y Ffordd ac Ymarfer Offer Anadlu, pan achubodd y criw Sbarc o ystafell boeler oedd yn llawn mwg. Llwyddodd y ddau arddangosiad i ennyn diddordeb y dyrfa a oedd wedi dod ynghyd.
Roedd y Diwrnod Agored yn llawn hwyl ac yn llwyddiant ysgubol, gan godi cyfanswm aruthrol o £2052.12 i Elusen y Diffoddwyr Tân.
Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gefnogodd y diwrnod.