27.03.2026

Seremoni Cwblhau Prosiect Ffenics yng Ngorsaf Dân Abercraf

Ddydd Iau, Mawrth 26ain, nodwyd carreg filltir arbennig yng Ngorsaf Dân Abercraf wrth i’r garfan ddiweddaraf o Gadetiaid Prosiect Ffenics gymryd rhan yn eu Seremoni Cwblhau.

Gan Steffan John



Ddydd Iau, Mawrth 26ain, nodwyd carreg filltir arbennig yng Ngorsaf Dân Abercraf wrth i’r garfan ddiweddaraf o Gadetiaid Prosiect Ffenics gymryd rhan yn eu Seremoni Cwblhau.

Mae’r Prosiect Ffenics yn rhaglen ymyrraeth ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.  Fel rhan o’r rhaglen pum diwrnod o hyd, mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau'r Gwasanaeth Tân ac Achub fel rhedeg pibellau dŵr, gweithio ar ysgolion a thechnegau chwilio ac achub.  Ochr yn ochr â'r sgiliau ymarferol hyn, mae'r rhaglen yn annog twf personol, gan helpu cadetiaid i feithrin hyder, datblygu gwaith tîm a dysgu sut i weithio o dan bwysau.

Roedd y cwrs hwn yn arbennig o nodedig, wrth i'r cadetiaid ddychwelyd i gwblhau eu cymhwyster Lefel 2 Agored Cymru, gan nodi dim ond y drydedd dro i grŵp gyflawni'r garreg filltir hon.

Ar brynhawn Mawrth 26ain, ymgasglodd ffrindiau a theuluoedd y cadetiaid yng Ngorsaf Dân Abercraf ar gyfer y Seremoni Cwblhau, lle dangosodd y cyfranogwyr y sgiliau y maent wedi'u datblygu drwy gydol eu taith Prosiect Ffenics, gan ddangos eu galluoedd technegol a'r cynnydd personol y maent wedi'i wneud.  Llongyfarchiadau i bob un ohonynt!






Erthygl Flaenorol