28.07.2025

Sioe Frenhinol Cymru 2025

Gan Rachel Kestin



Yr wythnos diwethaf, mynychodd aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (MAWWFRS) Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.

Roedd yn bedwar diwrnod llawn hwyl gyda digonedd o weithgareddau i blant a phobl ifanc gymryd rhan ynddynt, gan gynnwys taflenni lliwio Sbarc, cyfle i wisgo cit diffoddwr tân, tatŵs Sbarc, cyfle i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth 'Peryglon Trydanol' a llawer mwy!

 

Daeth llawer o ymwelwyr i stondin GTACGC, a oedd wedi'i leoli yn y lle perffaith ar y maes. Roedd ein haelodau Diogelwch Cymunedol wrth law gyda chyngor ac arweiniad diogelwch yn rhad ac am ddim, yn ogystal â hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gydag aelodau o'r RNLI, GanBwyll a Heddlu Dyfed Powys yn y babell yn rhoi cyngor diogelwch hanfodol.

 

Roedd cyfleoedd gwych i gael lluniau yn yr ardal gwisgo i fyny fel diffoddwr tân neu gael tynnu llun gyda'n masgot hoffus Sbarc!

Rydym eisiau diolch i bawb a ymwelodd â'n stondin. Gobeithio eich bod wedi cael wythnos ddiogel a phleserus ac edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd eto’r flwyddyn nesaf!

Erthygl Flaenorol