Taith Feics Elusennol gan ein Recriwtiaid Newydd
Ddydd Sadwrn, 6ed Gorffennaf, fe fu’r grŵp diweddaraf o Recriwtiaid Amser Cyflawn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cymryd rhan mewn taith feics elusennol yn Sioe Awyr Cymru ym Mae Abertawe.
Gan wynebu her ychydig yn wahanol fe wnaeth y tîm o 10 aelod o’r sgwad seiclo pellter o 500km i gyd a hynny ar feiciau spin, a thra’n gwisgo cit diffoddwr tân llawn!
Roedd y tîm wedi bod yn brysur yn hyfforddi a pharatoi rhwng eu sesiynau hyfforddi dwys i ddod yn Ddiffoddwyr Amser Cyflawn newydd i’r gwasanaeth. Fe wnaethon nhw’r her er mwyn codi arian pwysig i Elusen y Diffoddwyr Tân sy’n rhoi cefnogaeth arbenigol gydol oes i aelodau o gymuned gwasanaethau tân y DU sydd wedi ymddeol, a’u teuluoedd.
Yn ystod y dydd, fe gododd y tîm dros £565 mewn arian parod a thrwy eu tudalen JustGiving. Mae eu tudalen JustGiving yn dal i dderbyn rhoddion tan ddydd Llun, 15ed Gorffennaf, ac fe fydden nhw’n mawr werthfawrogi unrhyw swm.
Go dda chi sgwad 02/24!
A Allech Chi Fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.