Ddydd Sul, 17 Awst, bydd ein recriwtiaid diffodd tân Amser Cyflawn yn mynd ar daith gerdded elusennol heriol 10km o hyd, gan wisgo cit diffodd tân llawn a chario setiau offer anadlu (tua 15kg) - A hyn oll i gefnogi Elusen y Diffoddwyr Tân.
Bydd y daith yn mynd â'r recriwtiaid o Orsaf Dân Canol Abertawe i Bier y Mwmbwls, gan arddangos eu hymrwymiad i'r gwasanaeth tân ac achub a'r gymuned diffodd tanau yn ehangach. Trwy eu gwthio eu hunain i’r eithaf, nod ein recriwtiaid yw codi ymwybyddiaeth ac arian hanfodol ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân.
Mae Elusen y Diffoddwyr Tân yn darparu cefnogaeth gorfforol, feddyliol ac emosiynol holl bwysig i bersonél sy'n gwasanaethu ac i’r rhai sydd wedi ymddeol, yn ogystal â'u teuluoedd, yn ystod cyfnodau o galedi ac adferiad.
Cefnogwch y tîm trwy roi - mae eich cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.