07.11.2025

Tân Mewn Eiddo yn Heol y Sandy yn Llanelli

Ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, y Tymbl a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad yn Heol y Sandy yn Llanelli.

Gan Steffan John



Am 1.07yp ddydd Mawrth, 4 Tachwedd, cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, y Tymbl a Gorseinon eu galw i ddigwyddiad yn Heol y Sandy yn Llanelli.

Ymatebodd criwiau i dân mewn eiddo domestig diwedd teras.  Roedd y tân wedi'i gyfyngu i garej ac adeilad allanol ar lawr gwaelod yr eiddo.  Defnyddiodd criwiau bedair set offer anadlu, dwy bibell olwyn jet, un brif jet, pedwar camera delweddu thermol ac un ysgol estyniad triphlyg i ddiffodd y tân.

Roedd dau breswylydd yr eiddo wedi llwyddo i ddianc o’r eiddo heb unrhyw anafiadau.

Gadawodd y criwiau y lleoliad am 3.06yp.

Roedd angen ymateb amlasiantaeth ar gyfer y digwyddiad hwn, gyda Heddlu Dyfed-Powys a’r Gwasanaeth Ambiwlans hefyd yn bresennol.



Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf