21.02.2024

Tân Mewn Tŷ ym Min y Môr

Ddydd Mercher, Chwefror 21ain, cafodd criwiau Llanelli, Y Tymbl, Gorseinon, Pontiets, Caerfyrddin a Threforys eu galw i ddigwyddiad ym Min y Môr yn Llanelli. 

Gan Rachel Kestin



Ddydd Mercher, Chwefror 21ain, cafodd criwiau Llanelli, Y Tymbl, Gorseinon, Pontiets, Caerfyrddin a Threforys eu galw i ddigwyddiad ym Min y Môr yn Llanelli. 

Ymatebodd criwiau i dân o fewn eiddo deulawr yn mesur tua 5 metr wrth 4 metr.  Defnyddiodd criwiau 14 set o offer anadlu, dwy brif chwistrell, dwy chwistrell olwyn piben, pedwar camera delweddu thermol, dwy ysgol saith metr o hyd ac un peiriant ysgol trofwrdd i ddiffodd y tân.  Cafodd yr eiddo ei ddinistrio’n llwyr gan y tân.  Gadawodd y criwiau am 10.49yh. 

Am 12.31yb ddydd Iau, Chwefror 22ain, gwnaeth criw Llanelli ail ymweld â’r eiddo ar ôl i dulathau’r to ailgynnau.  Defnyddiodd y criwiau un chwistrell olwyn piben, un ysgol saith metr o hyd ac un camera delweddu thermol i ddiffodd y tân. 

Am 5yb, ail-archwiliwyd tri eiddo gan ddefnyddio camerâu delweddu thermol, ni chafwyd hyd i unrhyw fannau poeth.  Roedd Heddlu-Dyfed Powys hefyd yn bresennol. 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf