Yn ddiweddar, mae Diffoddwyr Tân yng Ngorsaf Dân Llanfair-ym-Muallt wedi derbyn casgliad o earth tedi wedi’u gwneud a’u rhoi’n garedig gan Gyfeillion Gofal Iechyd yn Llanfair-ym-Muallt a’r Cylch.
Bydd y tedis, sy’n cael eu hadnabod fel Tedis Trawma, yn cael eu cadw ar injans tân a’u rhoi i blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn eu mynychu. Yn aml, gall y digwyddiadau hyn fod yn llethol a brawychus, ac yn brofiadau anghyfarwydd, a’r gobaith yw y bydd y tedis a ddosbarthir gan griwiau GTACGC yn dod â rhywfaint o gysur i’r plant a’r bobl ifanc, ac yn lleddfu unrhyw drallod lle bo modd.
Mae criwiau o bob cwr o ardal gwasanaeth GTACGC yn aml yn derbyn rhoddion o Dedis Trawma, sy'n un enghraifft o'r gefnogaeth barhaus y mae GTACGC yn ei derbyn gan y cymunedau y mae'n eu gwasanaethu.
Mae GTACGC yn ddiolchgar iawn am y rhodd hael o dedis gan Gyfeillion Gofal Iechyd yn Llanfair-ym-Muallt a’r Cylch, gyda diolch arbennig i Mrs Mary Jenkins, Mrs Margaret Richards a’r diweddar Mrs Joyce Davies.