30.04.2024

Tîm Diogelwch Cymunedol yn cael Hyfforddiant Diogelwch Dŵr

Ddydd Llun, 22 Ebrill, daeth aelodau tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ynghyd i gael hyfforddiant Diogelwch Dŵr ar afon Teifi yn Llandysul.

Gan Lily Evans



Ddydd Llun, 22 Ebrill, daeth aelodau tîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ynghyd i gael hyfforddiant Diogelwch Dŵr ar afon Teifi yn Llandysul.

Trefnwyd y sesiwn gan y rheolwr Hyfforddi Achub Technegol, Darren Wilson, ac fe’i rhannwyd yn ddwy sesiwn. Yn y bore, cafwyd cyflwyniad gan ymatebydd cyntaf GTACGC sydd wedi cael hyfforddiant Achub o Ddŵr sy’n Llifo’n Gyflym, a oedd yn trafod pwysigrwydd diogelwch dŵr, y peryglon cyffredin a geir mewn dŵr, technegau atal boddi, a dulliau sylfaenol i achub eich hun ac eraill o ddŵr.

Yn y prynhawn, bu’r tîm Diogelwch Cymunedol yn gwneud gweithgareddau ymarferol fel ymarfer achub o’r lan, technegau estyn a thaflu, diogelu pobl sydd wedi’u hanafu, a hyfforddiant ar ba effeithiau ffisiolegol y gall sioc dŵr oer eu cael ar y corff wrth fynd i mewn i ddŵr oer.  Fe ddysgodd pawb sut i ddefnyddio offer diogelwch dŵr yn gywir ac yn gyflym mewn argyfwng.



Erbyn diwedd y dydd, roedd y tîm Diogelwch Cymunedol yn teimlo'n hyderus ac mewn sefyllfa well i roi cyngor ac arweiniad i'r cyhoedd, a bellach gallant rannu negeseuon Diogelwch Dŵr hanfodol wrth eu gwaith bob dydd.  

Mae Ymatebwyr Cyntaf Dŵr sy’n Llifo’n Gyflym yn barod i weithredu’n gyflym ac yn effeithlon yn y nifer cynyddol o ddigwyddiadau dŵr y mae'r Gwasanaeth yn ymateb iddynt. Mae ymarferion hyfforddi fel hyn yn ein hatgoffa o bwysigrwydd bod yn barod pan fyddwch mewn dŵr ac o gwmpas dŵr.

Dywedodd Darren Wilson, Rheolwr Hyfforddiant Achub Technegol:

"Bu’n ddiwrnod cynhyrchiol iawn, ac fe lwyddom roi gwybodaeth a phrofiad sylfaenol i'n tîm diogelwch cymunedol a fydd yn eu helpu i gyflwyno negeseuon ac ymgyrchoedd diogelwch dŵr y Gwasanaeth."

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf