Dyma rai awgrymiadau syml er mwyn helpu i gadw'n ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas:
- Os ydych chi'n mynd am dro neu'n rhedeg yn agos i’r dŵr, cadwch at y llwybrau priodol a pheidiwch â mynd at yr ymyl.
- Gwiriwch fod yr amgylchiadau’n ddiogel, a cheisiwch osgoi rhedeg neu gerdded yn agos i ddŵr pan fo’n dywyll, pan fo’n llithrig dan draed neu pan fo’r tywydd yn wael.
- Peidiwch â mynd i'r dŵr ar ôl yfed alcohol.
- Os ydych wedi bod yn yfed, dewiswch lwybr diogel i fynd adref, ewch gyda ffrindiau ac osgowch y dŵr.
- Peidiwch byth â mynd i mewn i'r dŵr er mwyn ceisio helpu person neu anifail - ffoniwch 999 bob amser a defnyddiwch offer achub o ddŵr os oes offer ar gael.
- Os ydych yn treulio amser ger y dŵr, boed hynny gartref neu dramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r wybodaeth leol am ddiogelwch a bod plant yn cael eu goruchwylio trwy’r adeg.
Nid yw llawer o bobl yn disgwyl i'w hamser ger y dŵr droi'n argyfwng, felly gall gwybod beth i’w wneud os ydych chi neu rywun arall yn mynd i drafferth achub bywydau.
Os oes rhywun mewn trafferth yn y dŵr, y ffordd orau i helpu yw cadw’ch pwyll, aros ar dir sych, a chofio Ffonio, Dweud, Taflu:
- Ffoniwch 999 i alw’r gwasanaethau brys.
- Dywedwch wrth y person sydd mewn trafferth arnofio ar eu cefn.
- Taflwch rywbeth sy’n arnofio atynt.
Os byddwch chi mewn trafferth yn y dŵr, cofiwch 'Arnofio i Fyw'. Rhowch eich pen yn ôl gyda’ch clustiau o dan y dŵr. Ymlaciwch, ceisiwch anadlu yn ôl yr arfer. Symudwch eich dwylo i'ch helpu i arnofio. Cadwch eich coesau a’ch breichiau ar led. Pan fyddwch wedi cael rheolaeth ar eich anadl, galwch am gymorth neu nofiwch i rywle diogel.
Am ragor o wybodaeth am yr ymgyrch #DeallPeryglonDŵr ewch i: www.nfcc.org.uk/bewateraware
I weld negeseuon diogelwch ac i gael gwybodaeth, cyngor neu arweiniad am Ddiogelwch Dŵr, edrychwch ar ein cyfrifon Cyfryngau Cymdeithasol ac ewch i'n gwefan.