17.10.2025

Wythnos Diogelwch Canhwyllau 2025

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog cymunedau i gymryd gofal ychwanegol wrth ddefnyddio canhwyllau.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn annog cymunedau i gymryd gofal ychwanegol wrth ddefnyddio canhwyllau.

Wrth i'r nosweithiau fyrhau a'r tymheredd ddechrau gostwng, bydd llawer yn troi at ganhwyllau i wneud i'w cartrefi deimlo'n fwy cysurus ac yn gynhesach ond mae'n bwysig cofio bod canhwyllau’n fflam agored a all achosi dinistr os cânt eu gadael heb oruchwyliaeth.

Bydd GTACGC bob amser yn annog pobl i beidio â defnyddio canhwyllau oherwydd y peryglon sy'n gysylltiedig. Mae'n ddealladwy bod llawer o bobl eisiau eu defnyddio am amrywiaeth o wahanol resymau, p'un ai yw'n rhan o ddathliad crefyddol neu dymhorol, neu yn syml i wneud i'r cartref arogli’n neis. Mae nawr yn gyfle perffaith i ail-werthuso’r risg o ddefnyddio canhwyllau ac ystyried defnyddio dewisiadau mwy diogel yn lle.

Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref, Gareth Hands:

“Yn aml, defnyddir canhwyllau i nodi achlysuron crefyddol arbennig neu i greu awyrgylch cysurus gartref, yn enwedig wrth i’r nosweithiau ymestyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig cofio bod canhwyllau’n fflam agored a gallant beri risg ddifrifol, yn enwedig mewn cartrefi gyda phlant, anifeiliaid anwes, neu bobl sy'n byw gyda dementia. "Rydym yn annog pawb yn gryf i ystyried dewisiadau amgen mwy diogel, fel canhwyllau LED sy’n cael eu pweru gan fatri, sy’n rhoi’r un effaith heb y perygl. "Os ydych chi'n dewis defnyddio canhwyllau, dilynwch ein cyngor diogelwch a pheidiwch byth â'u gadael heb oruchwyliaeth a gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy'n gweithio ar bob lefel o'ch eiddo. Mae ein tîm yma i'ch cefnogi gydag archwiliadau Diogel ac Iach rhad ac am ddim, gan gynnig cyngor wedi'i deilwra i helpu i’ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel."



Mae GTACGC hefyd yn cynnig ymweliadau Diogel ac Iach lle gall y tîm Diogelwch Cymunedol roi cyngor naill ai dros y ffôn neu ymweld â'ch eiddo i roi cefnogaeth ar ddiogelwch yn y cartref. Gallwch drefnu eich ymweliad trwy ffonio 0800 169 1234 neu drefnu ar-lein ar Ymweliad Diogel ac Iach - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (https://www.mawwfire.gov.uk/cym/)

Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnos #DiogelwchCanhwyllau hon am awgrymiadau defnyddiol ar ddefnyddio canhwyllau’n ddiogel neu am fwy o wybodaeth am Ddiogelwch Canhwyllau, ewch i: Diogelwch Canhwyllau - Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (https://www.mawwfire.gov.uk/cym/)

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf