23.09.2024

Wythnos Diogelwch Tân i Fyfyrwyr 23–27 Medi 2024

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Tân i Fyfyrwyr gan eu hannog i ystyried diogelwch tân yn eu llety newydd.

Gan Rachel Kestin



Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Diogelwch Tân i Fyfyrwyr gan eu hannog i ystyried diogelwch tân yn eu llety newydd.

Gan amlaf, mae myfyrwyr sy’n symud i’r brifysgol yn gadael cartref am y tro cyntaf, ac yn aml nid oes ganddynt lawer o brofiad o goginio na llawer o ddealltwriaeth am y peryglon a all ddigwydd yn y cartref.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn cynnig gwybodaeth i fyfyrwyr er mwyn eu cynorthwyo i fod yn ddiogel yn eu cartref, boed nhw’n byw mewn neuadd breswyl neu lety preifat am y tro cyntaf, neu’n fyfyrwyr hŷn sy’n dychwelyd i’w hail a’u trydedd flwyddyn.

Mae GTACGC yn cynnig y cyngor canlynol am Ddiogelwch Tân i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i gadw'n ddiogel:

  • Dewch i adnabod eich llety newydd a chrëwch gynllun dianc.
  • Peidiwch â gorlwytho socedi nac addaswyr trydanol.
  • Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb ei oruchwylio a chadwch unrhyw gyfarpar yn lân er mwyn atal tân rhag cynnau.
  • Diffoddwch bob eitem drydanol pan nad yw’n cael ei defnyddio.
  • Peidiwch byth â gwefru dyfeisiau trydanol dros nos.
  • Cadwch lwybrau dianc yn glir bob amser.
  • Peidiwch â defnyddio unrhyw beth i gadw drysau tân ar agor.
  • Os bydd tân yn cynnau, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999.

Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch yn y Cartref:

"Bob blwyddyn ceir nifer fawr o danau mewn llety myfyrwyr. Er ein bod am i chi gael amser gwych a mwynhau'r profiad o fod yn fyfyriwr i’r eithaf, rydym am i chi fod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn eich annog i ymgyfarwyddo â'ch amgylchedd newydd a dilyn yr holl ganllawiau a ddarparwyd, cadw'n ddiogel a sicrhau bod eich ffrindiau yn gwneud yr un peth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofio eich bywyd fel myfyriwr am y rhesymau cywir."



Am fwy o wybodaeth am Ddiogelwch Tân i Fyfyrwyr, ewch i’n gwefan a chadwch lygad ar ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol am awgrymiadau a chyngor defnyddiol.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf