Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn cefnogi wythnos Ddiogelwch Tân i Fyfyrwyr (22-28 Medi) drwy annog myfyrwyr i ystyried diogelwch tân yn eu llety newydd.
Gan amlaf, mae myfyrwyr sy’n symud i’r brifysgol yn gadael cartref am y tro cyntaf, ac yn aml nid oes ganddynt lawer o brofiad o goginio na llawer o ddealltwriaeth am y peryglon a all ddigwydd yn y cartref.
Mae GTACGC yn cynnig gwybodaeth i fyfyrwyr i'w helpu i gadw'n ddiogel yn y cartref, p'un ai’n byw mewn neuaddau preswyl neu lety preifat ar rent am y tro cyntaf neu fyfyrwyr hŷn sy'n dychwelyd yn eu hail a'u trydedd flwyddyn.
Dyma rai camau syml y gellir eu cymryd i sicrhau bod myfyrwyr yn cadw’n ddiogel:
- Dewch i adnabod eich llety newydd a chrëwch gynllun dianc.
- Cadwch lwybrau dianc yn glir bob amser er mwyn gallu mynd allan yn gyflym ond yn ddiogel.
- Peidiwch â defnyddio unrhyw beth i gadw drysau tân ar agor.
- Peidiwch â gorlwytho socedi nac addaswyr trydanol.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych larymau mwg sy'n gweithio yn eich llety.
- Peidiwch â gorchuddio unrhyw larymau mwg
- Peidiwch byth â gadael bwyd yn coginio heb ei oruchwylio a chadwch unrhyw gyfarpar yn lân er mwyn atal tân rhag cynnau.
- Diffoddwch bob eitem drydanol pan nad yw’n cael ei defnyddio.
- Peidiwch byth â gwefru dyfeisiau trydanol dros nos.
- Peidiwch â gadael ffonau neu dabledi yn gwefru ar ddodrefn meddal fel gwelyau, soffas a chadeiriau.
- Os ydych chi'n ysmygu, gwnewch yn siŵr bod sigaréts yn cael eu diffodd yn iawn. Neu os ydych chi'n defnyddio e-sigaréts, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio'r gwefrydd a ddarperir yn unig.
- Os bydd tân yn dechrau, EWCH ALLAN, ARHOSWCH ALLAN a FFONIWCH 999.
I gael rhagor o wybodaeth am Ddiogelwch Tân i Fyfyrwyr, ewch i'n gwefan a chadwch lygad ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael awgrymiadau a chynghorion defnyddiol.