11.11.2024

Wythnos Genedlaethol Diogelu 2024

Mae Wythnos Diogelu yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, ac mae’n canolbwyntio ar yr holl gymorth sydd ar gael i ddiogelu pobl, ein cymunedau, a’r gweithlu.

Gan Rachel Kestin



Mae Wythnos Diogelu yn ymgyrch genedlaethol sy’n cael ei chynnal bob blwyddyn, ac mae’n canolbwyntio ar yr holl gymorth sydd ar gael i ddiogelu pobl, ein cymunedau, a’r gweithlu.

Rydym ni’n un o aelodau craidd y bwrdd diogelu rhanbarthol gyda’n hasiantaethau partner, ac rydym ni’n cydweithio er mwyn cynnig gwasanaethau ac i weithredu’n gynnar i atal niwed.

Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fwrdd diogelu mewnol sy’n canolbwyntio ar sut caiff y gwasanaeth ei lywodraethu, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni’r rhwymedigaeth gyfreithiol a moesegol i ddiogelu ein cymunedau a’n gweithlu. Gweithwyr proffesiynol yw aelodau’r bwrdd, ac maen nhw’n cynnwys yr arweinydd pwnc, y tîm arweinyddiaeth gweithredol, a phenaethiaid adrannau.

Dywedodd Cadeirydd y Bwrdd Diogelu, y Prif Swyddog Cynorthwyol Mydrian Harries:

“Sefydlwyd y Bwrdd Diogelu ym mis Gorffennaf 2023, a'i ddiben yw sicrhau bod holl ofynion a dyletswyddau diogelu'r Gwasanaeth yn cael eu cyflawni yn unol â’r ddeddfwriaeth bresennol, Safonau Diogelu Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân (NFCC) / y Bwrdd Safonau Tân, a pholisïau, prosesau ac arferion mewnol. Dros y flwyddyn nesaf, bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar faterion megis: hyfforddiant ac ymwybyddiaeth staff, gosod meincnod ar gyfer ein trefniadau o gymharu â’r safonau cenedlaethol, yn ogystal â chefnogi adnewyddu gwiriadau Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer ein holl staff, a bydd hyn oll yn cyfrannu at gynnal y safonau diogelu uchel rydym ni yn eu harddel.”



Am fwy o wybodaeth am Ddiogelu, ewch i: Diogelu

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf