13.12.2024

Y Diffoddwr Tân Clive Bywater yn Dathlu 35 Mlynedd o Wasanaeth

Yn ddiweddar, mae’r Diffoddwr Tân Clive Bywater o Orsaf Dân Rhaeadr Gwy wedi dathlu 35 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, mae’r Diffoddwr Tân Clive Bywater o Orsaf Dân Rhaeadr Gwy wedi dathlu 35 mlynedd o wasanaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Ymunodd Clive â Brigâd Dân Powys y pryd hwnnw ym 1989, ac mae wedi bod yn aelod ymroddedig o’r criw ers hynny.  Ar gyfartaledd, mae Clive yn darparu 120 awr o wasanaeth Ar Alwad yn wythnosol, sef cyfanswm amcangyfrifedig o 218,000 o oriau yn ystod ei yrfa.

Dywedodd y Rheolwr Gorsaf, Martyn Field:

“Mae Clive yn ymfalchïo ym mhob agwedd o’i rôl fel Diffoddwr Tân Ar Alwad. Mae’n sicrhau bod yr offer a’r orsaf bob amser mewn cyflwr gwych ac mae’n gefnogol iawn i aelodau o staff newydd trwy rannu ei wybodaeth diffodd tân helaeth. Mae ei wybodaeth ar dirwedd yr ardal leol a thu hwnt yn ased sy’n cael ei wella gan ei swydd llawn amser yn arolygu a chynnal hydrantau ar draws ardal y Gwasanaeth. Ar ran Gorsaf Dân Rhaeadr, hoffwn ddiolch i Clive am ei ymroddiad a’i wasanaeth diwyro.”

Martyn Field - Rheolwr Gorsaf


Ddydd Iau, Rhagfyr 5ed, cynhaliwyd cyflwyniad gwasanaeth hir i gydnabod cyflawniad Clive.  Ymunodd Prif Swyddog Tân Cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Craig Flannery, â’r Rheolwr Gorsaf Field a chriw Rhaeadr i gyflwyno tystysgrif gwasanaeth hir i Clive.





Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf