26.02.2026

Y Gwasanaeth Tân ac Achub yn Cynnal Ymarferiad Hyfforddi Mawr yn Cross Hands

Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymarferiad hyfforddi mawr yn Leekes, Cross Hands ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026. Y bwriad oedd profi eu hymateb i wrthdrawiad traffig ar y ffordd rhwng sawl cerbyd a oedd yn cynnwys nifer o bobl wedi’u hanafu.

Gan Steffan John



Cynhaliodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymarferiad hyfforddi mawr yn Leekes, Cross Hands ddydd Mawrth 24 Chwefror 2026. Y bwriad oedd profi eu hymateb i wrthdrawiad traffig ar y ffordd rhwng sawl cerbyd a oedd yn cynnwys nifer o bobl wedi’u hanafu.

Cynhaliwyd yr ymarfer mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol, a chyda cefnogaeth Cadetiaid Heddlu Dyfed Powys a oedd yno’n chwarae rôl, a hynny ddwywaith - unwaith yn y prynhawn ac eto gyda'r nos - gan roi cyfle i griwiau hyfforddi mewn golau dydd ac mewn amodau golau isel.

Roedd peiriannau tân a chriwiau o orsafoedd ar draws Adran y Gorllewin yn bresennol, gan gynnwys y Tymbl, Pont-iets, Llandeilo, Rhydaman, Caerfyrddin a Llanymddyfri a chafwyd cefnogaeth ychwanegol gan yr Ystafell Reoli Tân ar y Cyd a’r timau Cyflwyno Hyfforddiant a Chwilio ac Achub Trefol. Roedd Swyddogion Diogelwch Cymunedol hefyd wrth law, yn siarad ag aelodau'r cyhoedd a oedd wedi ymgasglu o gwmpas y digwyddiad ac yn rhannu negeseuon diogelwch ffyrdd allweddol ynghylch y 5 Angheuol.

Fel rhan o'r ymarferiad, fe wnaeth y criwiau ymarfer technegau ar gyfer tynnu pobl yn rhydd, gofalu am bobl wedi’u hanafu, a chydlynu rheolaeth y digwyddiad, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gwbl barod i ymateb i argyfyngau go iawn ledled canolbarth a gorllewin Cymru.



Dywedodd Pennaeth Rhanbarthol Adran y Gorllewin, Nick Rees:

"Mae ymarferion fel hyn yn hanfodol er mwyn cadw ein gweithlu’n ddiogel, yn gymwys ac yn effeithiol. Maen nhw'n caniatáu inni hyfforddi mewn amodau realistig, cryfhau cydweithio ag eraill, a pharhau i wella'r gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig i'n cymunedau."



Hoffai'r Gwasanaeth ddiolch i Leekes am gael defnyddio eu maes parcio, ac i’r trigolion lleol a'r holl asiantaethau partner wnaeth gymryd rhan am eu cefnogaeth i wneud yr hyfforddiant hwn yn bosibl.

Mae youtube.com wedi'i rwystro oherwydd eich dewisiadau cwci cyfredol, gallwch newid y rheini trwy glicio ar y botwm cwci yn y gornel dde isaf ar unrhyw dudalen.











Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio ar gyfer Diffoddwyr Tân Ar Alwad.  Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol