Dechreuodd Roger weithio i’r Gwasanaeth fel Diffoddwr Tân ym 1996, ac fe gododd trwy'r rhengoedd i fod yn Brif Swyddog Tân. Bu ei yrfa yn un o broffesiynoldeb, uniondeb ac ymrwymiad diwyro i les y cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu.
Gweithiodd Roger mewn amrywiaeth o swyddi yn ei gyfnod gyda’r Gwasanaeth, a hynny ar yr ochr weithredol ac mewn arweinyddiaeth, gan gynnwys secondiad i Lywodraeth Cymru yn 2007/2008, lle defnyddiodd ei brofiad rheng flaen i helpu i lunio polisïau. Yn 2014, ymunodd â'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol fel Rheolwr Ardal. Yn 2017, daeth yn Rheolwr Brigâd yn ystod cyfnod o drawsnewid sylweddol i'r Gwasanaeth.
Cafodd ei benodi'n Brif Swyddog Tân ym mis Ebrill 2022, ac ers hynny mae Roger wedi arwain gyda rhagoriaeth, cydymdeimlad a gweledigaeth. O dan ei arweinyddiaeth, fe wnaeth y Gwasanaeth gynnal ei safonau uchel o ran rhagoriaeth ar yr ochr weithredol, a hynny gan groesawu arloesedd, cryfhau ymgysylltiad cymunedol a meithrin diwylliant o gynhwysiant a gwytnwch.
Cafodd ei gyfraniad eithriadol gydnabyddiaeth ffurfiol yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin 2024, teyrnged briodol i'w ymroddiad gydol oes i'r Gwasanaeth Tân ac Achub.