18.04.2024

Y Rheolwr Criw Nigel Bowden yn Dathlu 25 Mlynedd o Wasanaeth

Cafodd y Rheolwr Criw Nigel Bowden, o Orsaf Dân Aberystwyth, ei gydnabod yn ddiweddar am 25 mlynedd o wasanaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.

Gan Lily Evans



Cafodd y Rheolwr Criw Nigel Bowden, o Orsaf Dân Aberystwyth, ei gydnabod yn ddiweddar am 25 mlynedd o wasanaeth fel Diffoddwr Tân Ar Alwad.

Yn ystod ei chwarter canrif o wasanaeth, mae’r Rheolwr Criw Bowden wedi dangos ymroddiad a dewrder diwyro wrth amddiffyn cymunedau Aberystwyth.

Daeth criw Aberystwyth at ei gilydd yn ddiweddar i ddathlu’r garreg filltir, pan gyflwynwyd tystysgrif gwasanaeth hir iddo gan Swyddog yr Orsaf, Mark Ayling.




Y Rheolwr Criw Nigel Bowden a Swyddog yr Orsaf Mark Ayling.




Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae gan Orsaf Dân Aberystwyth system criwio yn ystod y dydd ac ar alwad. 

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf