10.09.2024

Y Rheolwr Criw Paul Jones yn Dathlu 25 Mlynedd o Wasanaeth

Mae Rheolwr Criw Gorsaf Dân Llanbed, Paul Jones, wedi dathlu 25 mlynedd o wasanaeth yn ddiweddar.

Gan Steffan John



Yn ystod noson ymarfer ar nos Lun, Medi 9fed, cafodd Rheolwr Gwylfa Gorsaf Dân Llanbed, Paul Jones, ei gyflwyno gyda thystysgrif gwasanaeth hir, wrth iddo gyrraedd 25 mlynedd o wasanaeth ymroddedig.

Derbyniodd Paul ei dystysgrif gan y Rheolwr Grŵp a Phennaeth Rhanbarth y Gogledd (Powys a Cheredigion) Steve Rowlands.

Diolch i ti Paul am dy wasanaeth ac ymrwymiad parhaus i gadw dy gymuned yn ddiogel!




A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf