Ymgasglodd aelodau'r criw yng Ngorsaf Dân Talgarth yn ddiweddar i ddathlu cyflawniad anhygoel eu Rheolwr Gwylfa, Bryan Davies.
Mae Bryan yn dathlu 42 mlynedd o wasanaeth ac yn nodi carreg filltir ryfeddol o ran ymroddiad ac ymrwymiad i gymuned Talgarth. Mae Bryan wedi gwasanaethu ei gymuned leol ers dros bedwar degawd, ac yntau wedi ymateb i argyfyngau dirifedi yn ogystal ag addasu i ofynion a datblygiadau parhaus y rôl.
Y Pennaeth Pobl a Datblygu Sefydliadol, Teri-Ann Parry, a gyflwynodd y dystysgrif am wasanaeth hir i Bryan, ac meddai:
"Yn ystod fy nghyfnod fel Pennaeth Rhanbarth y Gogledd (Powys a Cheredigion), cefais y pleser mawr o weithio gyda Bryan, Rheolwr Gwylfa hynod o brofiadol sy'n gwasanaethu ei gymuned gydag ymrwymiad diwyro. Mae Bryan yn un o'n Rheolwyr Gwylfa sydd wedi gwasanaethu hiraf ac mae’n dal i gyflawni’r swydd ag egni diddiwedd. Llongyfarchiadau i Bryan ar ei gyfnod anhygoel o Wasanaeth."

A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.