08.04.2024

Y Rheolwr Gwylfa Steve Amor yn Ymddeol Ar Ôl 35 Mlynedd

Ddydd Mawrth, 2 Ebrill, daeth y criw yng Ngorsaf Dân Llanwrtyd ynghyd i nodi ymddeoliad y Rheolwr Gwylfa Steve Amor, ôl 35 mlynedd o wasanaeth ymroddedig.

Gan Lily Evans



Ddydd Mawrth, 2 Ebrill, daeth y criw yng Ngorsaf Dân Llanwrtyd ynghyd i nodi ymddeoliad y Rheolwr Gwylfa Steve Amor, ôl 35 mlynedd o wasanaeth ymroddedig.

Ymunodd Steve â Brigâd Dân Powys, fel Diffoddwr Tân ym 1988, cyn cael ei ddyrchafu'n Brif Ddiffoddwr Tân (Rheolwr Criw erbyn hyn) ym 1998.  Yn 2011, daeth Steve yn Rheolwr Gwylfa’r Orsaf Dân.

Yn ogystal â'i ymroddiad i'w rôl yng Ngorsaf Dân Llanwrtyd, mae Steve hefyd wedi rhoi ei amser a’i wybodaeth yn wirfoddol i hyrwyddo diogelwch tân ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf yn y gymuned leol trwy amrywiol grwpiau a sefydliadau.

Wrth siarad ar ymddeoliad Steve, dywedodd Simon Prince, Pennaeth yr Orsaf:

"Roedd Steve, ynghyd â'i wraig Angela sy'n gweithio yn Nhîm Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn allweddol o ran codi arian ar gyfer cerbyd cyd-ymatebydd cymunedol yr Orsaf. Mae hwn wedi bod yn ased amhrisiadwy i'r gymuned leol ac mae angerdd Steve wedi bod yn rhagorol, gyda naw aelod o'r criw â’r set sgiliau sydd eu hangen i ddarparu ymateb brys i ddigwyddiadau sy'n peryglu bywyd. Rydyn ni’n hynod o ddiolchgar am eu gwaith caled a'u hymroddiad."



Mae'r criw a phawb yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn diolch i Steve am ei wasanaeth a'i gyfraniad amhrisiadwy ac yn dymuno ymddeoliad hir a hapus iddo.

 Chief Fire Officer Roger Thomas with Watch Manager Steve Amor.


Y Prif Swyddog Tân Officer Roger Thomas gyda'r Rheolwr Gwylfa Steve Amor.

 Watch Manager Steve Amor and Crew Manager Kumar Saraff.


Y Rheolwr Gwylfa Steve Amor a'r Rheolwr Criw Kumar Saraff. 



Allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?

Mae Llanwrtyd yn Orsaf Dân Ar Alwad, sy’n golygu bod ei diffoddwyr tân yn cael eu hysbysu am alwad frys trwy ddyfais alw bersonol, y maen nhw’n ei chario gyda nhw pan fyddant ar ddyletswydd.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Dysgwch fwy am sut i fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad yma.


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf