11.10.2024

Ychwanegu Pecynnau Achub Bywyd at Unedau Diffibriliwr

Ddydd Mawrth, 1 Hydref, croesawodd y criw yng Ngorsaf Dân Pontardawe Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James YH, i lansio’r ffaith bod pecynnau Rheoli Gwaedu Critigol yn cael eu cyflwyno ar sawl un o safleoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Ddydd Mawrth, 1 Hydref, croesawodd y criw yng Ngorsaf Dân Pontardawe Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James YH, i lansio’r ffaith bod pecynnau Rheoli Gwaedu Critigol (CBC) yn cael eu cyflwyno ar sawl un o safleoedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Yn dilyn cyflwyno diffibrilwyr mynediad cyhoeddus (PAD) i achub bywydau mewn 23 o Orsafoedd Tân yn gynharach eleni, mae saith pecyn rheoli gwaedu wedi'u hychwanegu at rai o’r cypyrddau diffibriliwr. 

Yn ogystal â'r diffibrilwyr, gall pecynnau rheoli gwaedu olygu’r gwahaniaeth rhwng byw a marw i bobl sy'n gwaedu’n ddifrifol yn sgil damweiniau, gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, anafiadau treiddiol, troseddau cyllyll a mwy.  Gallant ddarparu cymorth ar unwaith cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

Mae'r pecynnau wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i’w defnyddio ac maent yn cynnwys offer o ansawdd milwrol - fel menig, rhwymynnau a rhwymyn tynhau - a'r cyfarwyddiadau sydd eu hangen i reoli’r colli gwaed ac atal person rhag gwaedu i farwolaeth. Gall person farw mewn cyn lleied â thri i bum munud yn sgil colli gwaed.

Mae'r fenter yn cael ei harwain gan Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg, Melanie James YH, mewn partneriaeth â Heartbeat Trust UK a Sefydliad Daniel Baird.  Yn ddiweddar, cafwyd grant o £10,000 gan Gyngor Abertawe i ariannu 100 o becynnau i'w hychwanegu at rwydwaith presennol Abertawe o ddiffibrilwyr mynediad cyhoeddus.

Wrth siarad yng Ngorsaf Dân Pontardawe, dywedodd yr Uchel Siryf Melanie James:

"Rwy'n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan GTACGC a'u rhodd hael iawn o saith pecyn achub bywyd sydd ar gael i'r cyhoedd yn y blychau diffibriliwr y tu allan i'w gorsafoedd yng Ngorllewin Morgannwg."

Melanie James YH - Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg


Dywedodd Prif Swyddog Tân GTACGC, Roger Thomas KFSM:

"Bydd ychwanegu’r pecynnau rheoli gwaed critigol at y rhwydwaith presennol o unedau diffibriliwr yn ein Gorsafoedd Tân yn gam pellach o ran rhoi’r offer sydd eu hangen arnynt i gymunedau i weithredu'n gyflym mewn argyfwng cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd. Byddant yn galluogi’r rhai sydd wrth law i ddod yn achubwyr bywyd trwy arafu neu stopio’r gwaedu pan mae pob eiliad yn cyfrif."

Roger Thomas KFSM - Prif Swyddog Tân


Dyma’r Gorsafoedd Tân GTACGC fydd yn cael pecyn rheoli gwaed critigol yn eu cypyrddau diffibriliwr:

Gorseinon, Tre Rheinallt, Canol Abertawe, Gorllewin Abertawe, Castell-nedd, Blaendulais a Phontardawe.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf