Yn ddiweddar, cynhaliwyd ymarfer hyfforddi aml-asiantaeth â dronau yn ddiweddar ym Maes Awyr Sain Tathan ym Mro Morgannwg.
Roedd Tîm Dronau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR), Tîm Dronau Heddlu Gwent, Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) a Hofrennydd Gwylwyr y Glannau yn bresennol.
Cynhaliodd criwiau o bob asiantaeth sesiynau hyfforddi damcaniaethol ac ymarferol ar y cyd i sicrhau bod y gofod awyr yng Nghymru mor ddiogel â phosibl ac i ganiatáu gweithrediadau ar y cyd mewn digwyddiadau brys pan fo angen.
Roedd Cooper, y Ci Chwilio ac Achub, yn bresennol gyda Thîm USAR. Gellir anfon Cooper i unrhyw le yng Nghymru a'r DU, a all olygu y bydd angen iddo gael ei gludo mewn awyren i'r lleoliad. Fe wnaeth y sesiwn hyfforddi alluogi Tîm USAR i efelychu Cooper yn cael ei anfon allan a’i baratoi ar gyfer teithio mewn ased awyr.
Mae sesiynau hyfforddi fel hyn yn caniatáu i’r Peilotiaid o Bell sy’n hedfan dronau gynnig cyngor perthnasol i Benaethiaid Digwyddiadau ar yr ased gorau i’w ddefnyddio mewn digwyddiad ac i roi’r wybodaeth i Bennaeth y Digwyddiad er mwyn iddynt wneud y penderfyniadau tactegol priodol mewn digwyddiad.