06.08.2024

Ymarfer Hyfforddi Amlasiantaethol ym Maes Awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng

Dydd Mawrth, 30 Gorffennaf, cynhaliwyd ymarfer hyfforddi ar raddfa fawr ym Maes Awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng, wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Gan Steffan John



Dydd Mawrth, 30 Gorffennaf, cynhaliwyd ymarfer hyfforddi ar raddfa fawr ym Maes Awyr Canolbarth Cymru yn y Trallwng, wedi’i drefnu gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC).

Roedd yr ymarfer hyfforddi, sef ‘ Edrych tua’r Awyr’ neu ‘Look to the Sky’, yn cwmpasu ymateb amlasiantaethol gan gynnwys Heddlu Dyfed-Powys, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, staff y maes awyr a nifer o griwiau GTACGC. 

Roedd yr ymarfer yn gyfle i efelychu senario brys realistig a oedd yn cynnwys gwrthdrawiad rhwng dwy awyren mewn sioe awyr, a’r rheini’n cwympo i’r llawr wedyn yn y man parcio a’r man i wylwyr.  Roedd yr efelychiad o’r argyfwng yn cynnwys defnyddio sawl cerbyd ymateb brys a phersonél, sefydlu canolfannau rheoli a chynnal ymgyrchoedd chwilio ac achub.

Yn cefnogi’r gwahanol griwiau o’r gwasanaethau brys yn yr ymarfer roedd Cadetiaid Tân y Drenewydd a Chadetiaid Byddin y Trallwng, a oedd yn efelychu pobl a anafwyd.  Roedd yr ymarferiad yn caniatáu i bawb a oedd yn bresennol ymarfer diffodd tanau awyrennau, rhyddhau anafusion o gerbydau wedi'u difrodi, rheoli deunyddiau peryglus, brysbennu (brysbennu deg eiliad) a darparu cymorth meddygol i'r anafusion.

Wrth siarad yn yr ymarfer hyfforddi, dywedodd Pennaeth Rhanbarth y Gogledd (Powys a Cheredigion) y Gwasanaeth, y Rheolwr Grŵp Stephen Rowlands:

"Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i ddod â nifer o wasanaethau brys ynghyd i brofi a mireinio ein sgiliau ymateb. Mae'r ymarfer hyfforddi heddiw wedi rhoi cyfle i ni i gyd weithredu gan ddefnyddio gweithdrefnau rhyngweithredu sefydledig y gwasanaethau brys ar y cyd, gwella’r modd y mae ymdrechion yn cael eu cydlynu, profi ein systemau cyfathrebu a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer digwyddiadau go iawn. Diolch i bawb a fu’n cymryd rhan, gan gynnwys Maes Awyr Canolbarth Cymru am gael defnyddio'r lleoliad ac am eu rhan nhw yn yr ymarfer, y ffotograffydd Phil Blagg, Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a’r Cadetiaid Tân a Chadetiaid y Fyddin a'u hyfforddwyr. Mae mor bwysig mireinio ein sgiliau ein hunain a deall sut mae'r rhain yn cael eu defnyddio mewn amgylchedd amlasiantaethol, er mwyn sicrhau ein bod yn barod i gynorthwyo'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu."

Y Rheolwr Grŵp Stephen Rowlands - Pennaeth Rhanbarth y Gogledd







Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf