15.05.2025

Ymarfer Hyfforddi ‘Cymylog’

Ddydd Mawrth, Mai 13eg, bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Treforys, Pontarddulais, Castell-nedd a Phort Talbot yn cymryd rhan mewn ymarfer hyfforddi yng Ngwaith Trin Dŵr Cymru yn Abertawe.

Gan Steffan John



Ddydd Mawrth, Mai 13eg, bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Treforys, Pontarddulais, Castell-nedd a Phort Talbot yn cymryd rhan mewn ymarfer hyfforddi yng Ngwaith Trin Dŵr Cymru yn Abertawe.

Gyda’r enw ‘Ymarfer Cymylog’, roedd y sesiwn yn efelychu digwyddiad HAZMAT (deunyddiau peryglus) Categori 2 yn cynnwys gollyngiad nwy clorin o falf wedi'i difrodi ar danc storio.  Fel rhan o'r efelychiad, adroddwyd bod un Technegydd Dŵr Cymru ar goll, a lluniwyd cynllun achub yn gyflym.

Gwisgodd aelodau’r criw gwisgoedd amddiffynnol ac offer anadlu i gynnal ymgyrch chwilio ac achub ar y safle.  Sefydlwyd monitor daear i wasgaru’r cwmwl nwy.  Yn ogystal ag ymarfer eu sgiliau chwilio ac achub, rhoddodd y sesiwn hyfforddi cyfle hefyd i aelodau’r criw ddilyn gweithdrefnau dadheintio yn dilyn digwyddiad HAZMAT.





Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.






Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf