02.07.2024

Ymarfer Hyfforddi Halogion

Ddydd Llun, 24 Mehefin, bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Aberystwyth, Aberaeron, Ceinewydd, y Trallwng, Machynlleth a Llanfair Caereinion mewn ymarfer hyfforddi ar gampws Prifysgol Aberystwyth.

Gan Steffan John



Ddydd Llun, 24 Mehefin, bu criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Aberystwyth, Aberaeron, Ceinewydd, y Trallwng, Machynlleth a Llanfair Caereinion mewn ymarfer hyfforddi ar gampws Prifysgol Aberystwyth.

Yn ystod yr ymarfer hyfforddi oedd yn efelychu tân, defnyddiodd criwiau'r gweithdrefnau gweithredol newydd ar gyfer ymdrin â chit tân budr ac offer sydd wedi'u halogi gan gynhyrchion hylosgi.  Mae ymchwil a wnaed yn ddiweddar gan Sefydliad Iechyd y Byd wedi tynnu sylw at y ffaith y gall diffoddwyr tân sy'n cael eu hamlygu i huddygl a mwg dros gyfnod hir ddioddef mwy o salwch yn nes ymlaen yn eu bywydau. 

Roedd y Swyddog Prosiect Halogion Tân, y Rheolwr Grŵp Simon Pearson, yn bresennol yn yr ymarfer ac roedd yn falch o weld criwiau’n ymarfer y gweithdrefnau newydd. Dywedodd ef:

"Mae'n hanfodol bwysig bod ein criwiau tân yn eu hamddiffyn eu hunain rhag cynhyrchion hylosgi gan fod gronynnau huddygl a thân yn gallu aros ar y croen ac ar ddillad am gyfnod sylweddol o amser. Oherwydd hyn, mae angen gwella ein gweithdrefnau hylendid a glanhau personol er mwyn diogelu iechyd a lles ein diffoddwyr tân.”



Dywedodd Mark Ayling, Rheolwr Gorsaf Dân Aberystwyth:

"Hoffwn ddiolch yn fawr i Brifysgol Aberystwyth am adael i ni ddefnyddio eu hadeiladau. Mae'n hanfodol bwysig bod ein criwiau tân yn hyfforddi mewn amgylcheddau realistig. Hefyd, diolch yn fawr iawn i aelodau'r criwiau a oedd yn bresennol, a rhai ohonynt wedi teithio pellter mawr i gymryd rhan yn yr ymarfer heno."





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf