Yn ddiweddar, mynychodd Tîm Chwilio ac Achub Trefol (ChAT) Cymru ymarfer hyfforddi yng Nghanolfan Hyfforddi Waddington, Swydd Lincoln.
Roedd hwn yn efelychu sefyllfa lle byddai’n rhaid i ChAT Cymru ymateb i ddigwyddiad ar raddfa fawr y tu allan i Gymru, ar arfordir Dwyrain Lloegr. Aeth y tîm yno fel confoi ChAT a oedd yn cynnwys saith cerbyd arbenigol a phedwar ar ddeg o Dechnegwyr ChAT.
Mae Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (ChAT Cymru) yn cynnwys aelodau o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC) - sy’n derbyn hyfforddiant o arbenigedd uchel mewn amgylcheddau Chwilio ac Achub Trefol.
Roedd y tîm yn hunangynhaliol wrth ymarfer, fel y byddent mewn digwyddiad. Roedd gofyn i'r tîm sefydlu Sylfaen Gweithrediadau, logisteg ac ardaloedd diheintio.
Trwy ddefnyddio amrywiaeth o offer arbenigol, nod yr ymarfer hyfforddi pedwar diwrnod oedd profi, datblygu a mireinio galluoedd y tîm o ran gorchmynion a rheolaeth, gweithdrefnau radio cenedlaethol, gweithrediadau ar uchder, cynnal setiau sgiliau, technegau torri ar gyfer metel a choncrit a chwilio ac achub o fewn mannau cyfyng.
Yn ystod ail ddiwrnod yr ymarfer roedd aelodau'r tîm yn cymryd rhan mewn ffrwydrad ffug lle’r oedd dau berson ar goll. Rhoddodd hwn gyfle i ymarfer y technegau cywir ar gyfer torri concrit ac er mwyn defnyddio ci chwilio ChAT Cymru, Cooper, a ddaeth o hyd i ardak o ddiddordeb yn gyflym, gan alluogi'r tîm i ddefnyddio eu cyfarpar chwilio technegol i ddod o hyd i'r cleifion a chyfathrebu â nhw.
Roedd aelodau'r tîm hefyd yn gallu datblygu a gweithredu cynlluniau achub technegol, gan gynnwys asesu'r sefyllfa, dewis y dechneg achub briodol a gweithredu protocolau ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd brys.
Dywedodd Gareth Lewis, Rheolwr Tîm ChAT Cymru: