Yn ddiweddar, cymerodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Glyn-nedd, Cymer, Dyffryn Aman a Blaendulais rhan mewn ymarfer hyfforddi yng Nghapel Ebeneser ym Mhontneddfechan.
Yn ystod yr ymarfer, bu Diffoddwyr Tân yn cymryd rhan mewn tân ffug yn y capel, gyda 15 claf angen cymorth a’u hachub. Bu’n rhaid i sawl injan dân ymateb i’r digwyddiad ac offer arbenigol gael eu defnyddio i gael mynediad i’r adeiladu ac achub y cleifion.
Fel rhan o’r ymarfer, roedd Diffoddwyr Tân yn gallu ymarfer gosod pibau dŵr, cydlynu gweithredoedd ysgolion a chynnal achubon mewn amgylcheddau â gwelededd gwael. Drwy gydol yr ymarfer hwn, cafodd Diffoddwyr Tân brofiad gwerthfawr o reoli tanau, achub cleifion a gwella eu parodrwydd ar gyfer argyfyngau go iawn.





A allech chi fod yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad?
Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.
Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.
Y Newyddion Diweddaraf
-
Her Ffitrwydd Diffoddwyr Tân Cymru 2025
12.06.2025
-
Digwyddiad: Tân Mewn Ysgubor yn Abergwili
12.06.2025