20.11.2024

Ymarfer Hyfforddi yn Llanidloes

Yn ddiweddar, cymerodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanidloes, Rhaeadr Gwy a Llandrindod rhan mewn ymarfer hyfforddi gwrthdrawiad ar y ffordd yn Llanidloes.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cymerodd criwiau o Orsafoedd Tân Llanidloes, Rhaeadr Gwy a Llandrindod rhan mewn ymarfer hyfforddi gwrthdrawiad ar y ffordd yn Llanidloes.

Fe wnaeth yr ymarfer efelychu gwrthdrawiad yn cynnwys sawl cerbyd a sawl claf, a roddodd gyfle i’r criwiau weithio gyda chriwiau lleol Ambiwlans Sant Ioan ac ymarfer y dull ‘dosbarthu deg eiliad’ a gyflwynwyd yn ddiweddar.




Gwnewch Wahaniaeth a Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad



Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.





Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf