18.03.2025

Ymarfer Hyfforddi yng Nghroesoswallt

Yn ddiweddar, ymunodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru â chriwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig ar gyfer ymarfer hyfforddi yng Nghroesoswallt.

Gan Steffan John



Ddydd Mercher, Mawrth 12fed, ymunodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) â chriwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Swydd Amwythig ar gyfer ymarfer hyfforddi yng Nghroesoswallt.

Roedd criwiau GTACGC o Orsafoedd Tân Llanfyllin a Threfaldwyn yn bresennol, ac roedd yr ymarfer hyfforddi yn efelychu tân mewn ffatri.  Cydlynodd y criwiau weithrediadau pibelli dŵr, technegau chwilio ac achub a thactegau awyru, tra bod penaethiaid digwyddiadau yn ymarfer gwneud penderfyniadau strategol.

Wrth efelychu digwyddiad brys go iawn, roedd y sesiwn yn gyfle i aelodau'r criw atgyfnerthu eu sgiliau gwaith tîm, cyfathrebu a hyblygrwydd, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn barod ar gyfer digwyddiadau ar safleoedd diwydiannol.








Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf