17.02.2025

Ymarfer Hyfforddi yng Ngorsaf Dân Aberystwyth

Yn ddiweddar, cymerodd y Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi a oedd yn efelychu achub claf o uchder.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, cymerodd y Diffoddwyr Tân Ar Alwad yng Ngorsaf Dân Aberystwyth ran mewn ymarfer hyfforddi a oedd yn efelychu achub claf o uchder.

Roedd yr ymarfer yn efelychu claf a oedd yn sownd ar do.  Gan ddefnyddio ysgolion, harneisiau ac offer arbenigol arall, bu’r criw yn gweithio’n gyflym i asesu’r sefyllfa a llunio cynllun i achub y claf.  Cafodd y criw'r cyfle i ddefnyddio eu sgiliau a’u gwybodaeth i achub cleifion mewn digwyddiadau gyda hygyrchedd cyfyngedig ac ar uchder.  Roedd y criw hefyd yn gallu defnyddio Peiriant Ysgol Trofwrdd yr Orsaf Dân i gyrraedd ac achub y claf.

Profodd yr ymarfer eu sgiliau cydlynu, cyfathrebu ac achub technegol, gan sicrhau eu bod bob amser yn barod ar gyfer argyfyngau bywyd go iawn.







Dewch yn Ddiffoddwr Tân Ar Alwad a Gwnewch Wahaniaeth Go Iawn

Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn rhan hanfodol o’n Gwasanaeth ac eich cymuned.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar hyn o bryd yn recriwtio Diffoddwyr Tân Ar Alwad ym mhob un o’n Gorsafoedd Tân Ar Alwad.

Mae rôl Diffoddwr Tân Ar Alwad yn darparu llawer o gyfleoedd ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol, trwy hyfforddiant, gwaith tîm, arweinyddiaeth a datrys problemau. Mae Diffoddwyr Tân Ar Alwad yn derbyn tâl am eu gwasanaethau, gan gynnwys ffioedd cadw a thaliadau galw allan, gan ychwanegu at eu hincwm o gyflogaeth arall.

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf