10.02.2025

Ymarfer Hyfforddiant Cydweli yn Llwyddiant Mawr!

Ddydd Sul, 2 Chwefror cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi offer anadlu (BA) o'r enw ‘Nwy yn y Nen’, a gynhaliwyd yng Nghapel Sul, Cydweli.

Gan Rachel Kestin



Ddydd Sul, 2 Chwefror cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi offer anadlu (BA) o'r enw ‘Nwy yn y Nen’, a gynhaliwyd yng Nghapel Sul, Cydweli.

Roedd yr ymarferiad yn caniatáu i'r criw ymarfer eu hymatebion wrth ddelio â digwyddiadau mewn adeiladau adfeiliedig cymhleth. Capel Sul oedd y lleoliad delfrydol i roi amgylchedd realistig i'r criw. Roedd yn caniatáu iddynt brofi eu setiau Offer Anadlu (BA), eu gweithdrefnau Rheoli Digwyddiad,  achub brys drwy gario, achub pobl sy’n sownd mewn sefyllfaoedd heriol a mwy.

Dywedodd Swyddog Cyswllt yr Orsaf, Emyr Davies:

"Roedd yr ymarfer yn 'Capel Sul' yn llwyddiant ysgubol ac yn gyfle gwych i'n criw(iau?) ymarfer ac achub mewn adeilad cymhleth. Gweithiodd pawb oedd yno yn ddiflino i brofi ein gweithdrefnau mewn amgylchedd realistig, gan roi llwyfan ar gyfer cyfleoedd dysgu rhagorol a drafodon ni wedyn ar ddiwedd yr ymarferiad."



Hoffem ddiolch i Leigh Hipkiss o Reflect Education am ganiatáu i ni ddefnyddio'r safle ar gyfer yr ymarferiad. Hefyd, diolch i Reflect Education a Gravells yng Nghydweli am eu cefnogaeth barhaus wrth ryddhau diffoddwyr tân ar alwad i fynd i alwadau brys.

Diolch i bawb a gymerodd ran ac i’r cyhoedd am eu dealltwriaeth yn ystod yr ymarferiad.

Os ydych chi erioed wedi ystyried dod yn ddiffoddwr tân ar alwad, mae GTACGC yn recriwtio ar hyn o bryd ym mhob un o'n Gorsafoedd Tân Ar Alwad. Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth neu i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.









Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf