05.07.2024

Ymarfer Hyfforddiant Ffrwydrad Llinell Nwy Ffug

Ddydd Llun, Gorffennaf 1af, cynhaliodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru o Orsafoedd Tân Llanelli, Cydweli a Rhydaman ymarfer hyfforddi yng Ngwaith Trostre TATA Steel yn Llanelli.

Gan Steffan John



Ddydd Llun, Gorffennaf 1af, cynhaliodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) o Orsafoedd Tân Llanelli, Cydweli a Rhydaman ymarfer hyfforddi yng Ngwaith Trostre TATA Steel yn Llanelli.

Roedd y sesiwn hyfforddi yn caniatáu i aelodau’r criwiau efelychu ffrwydrad llinell nwy a thân dilynol, a oedd nid yn unig yn profi cynlluniau ymateb brys TATA Steel, ond hefyd gweithdrefnau gweithredol GTACGC ar gyfer ymateb i ddigwyddiad ar safle Rheoli Peryglon Damweiniau Mawr haen is.

Wrth siarad am yr ymarfer hyfforddi, dywedodd Pennaeth yr Orsaf, Sian Davies:

“Roedd hwn yn gyfle gwerthfawr i’r rhai sy’n datblygu mireinio eu sgiliau a chynyddu eu gwybodaeth trwy ymwybyddiaeth sefyllfaol. Gwnaethpwyd ymdrech aruthrol gan bawb a hoffwn ddiolch i bawb am eu presenoldeb.”

Sian Davies - Rheolwr yr Orsaf




Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf