Ddydd Sadwrn, 28 Mawrth, bu aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn rhan o ymarferiad hyfforddi 4 pwmp o'r enw 'Ymarferiad Frostline' yn TATA Steel ym Mhort Talbot.
Roedd yr ymarferiad yn cynnwys aelodau criw o Orsafoedd Tân Port Talbot, Castell-nedd a Threforys. Y nod oedd profi ymateb gweithredol y criw yn ystod efelychiad o ddigwyddiad nwy yn gollwng yn ardal y melinau poeth ar yr islawr. Roedd yr ymarferiad yn cynnwys pobl wedi anafu mewn amgylchedd realistig.
Roedd TATA Steel yn le delfrydol i gynnal yr ymarferiad, gan alluogi’r criwiau i ymgyfarwyddo â chynllun y safle a chael dealltwriaeth gliriach o'r peryglon a oedd yn bresennol. Aeth chwe aelod o'r criw i’r islawr gan wisgo Offer Anadlu (BA), a llwyddo i achub tri person coll a oedd wedi’u hanafu.
Roedd yr ymarferiad hefyd yn gyfle i TATA Steel brofi eu protocolau gwacáu cyfredol ar gyfer y ffwrneisi mawr a chymhleth.
Dywedodd y Rheolwr Gwylfa, Chris Doyle: