10.03.2025

Ymarferiad Hyfforddi Drôn Chwilio ac Achub Trefol

Yn ddiweddar, bu aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru, Tîm Dronau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gorsaf Dân Gorseinon, a Bad Achub Glannau Llwchwr yn rhan o ymarferiad hyfforddi ar y cyd yn Aber Llwchwr.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar, bu aelodau o Dîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR), Tîm Dronau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC), Gorsaf Dân Gorseinon, a Bad Achub Glannau Llwchwr yn rhan o ymarferiad hyfforddi ar y cyd yn Aber Llwchwr.

Yn ystod y sesiwn hyfforddi bu aelodau o’r gwahanol sefydliadau yn dysgu am alluoedd a sgiliau ei gilydd wrth iddynt chwilio am berson coll ar hyd aber Llwchwr a'r cyffiniau. Siaradodd y tîm dronau am alluoedd gwahanol ddronau GTACGC, am y cynlluniau priodol sydd ar waith i atal gwrthdrawiadau ag asedau hedegog eraill, am y gwahanol fathau o batrymau chwilio a ddefnyddir, ac am y delweddau a'r wybodaeth y gall drôn eu hanfon i Bennaeth y Digwyddiad, gan eu helpu i wneud penderfyniadau tactegol priodol ar leoliad ac o bell, a hynny trwy anfon delweddau yn ôl i gell Reoli neu i Gynghorydd Chwilio'r Heddlu sy'n gweithio o bell.

Siaradodd criw Bad Achub Glannau Llwchwr am eu galluoedd ac am eu hamrywiol asedau a sgiliau gweithredol, ar dir sych ac ar ddŵr, a sut y gall criwiau GTACGC eu defnyddio i gynorthwyo yn ystod digwyddiadau brys.

Roedd y senarios bwrdd a’r senarios ymarferol a efelychwyd yn ystod y sesiwn hyfforddi yn cynnwys ymarferiad lle’r oedd rhywun wedi’u hanafu ac yn sownd mewn mwd yn yr aber, ac fe wnaeth y dronau arddangos eu gallu i oleuo ac i chwarae sain er mwyn cynorthwyo ac i wella diogelwch aelodau'r criw yn ystod argyfwng.  Gall dronau wella gwelededd yn ystod digwyddiad, a gellir defnyddio’r seinydd i gyfathrebu â phobl sydd wedi’u hanafu a’u hasesu ac i fonitro lles y timau achub.

Cafwyd cyfle hefyd i drafod sut mae gwneud cais i ddefnyddio "Cooper", ci chwilio Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru, wrth geisio dod o hyd i berson coll, gan fod y ci wedi'i hyfforddi i fynd ar drywydd aroglau dynol mewn amrywiaeth o amgylcheddau lle byddai'n rhy anodd i dimau chwilio weithio. 


Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf