Ddydd Mercher, 7 Ionawr, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi o'r enw’r "Tŵr Dŵr", a gynhaliwyd yn Noc y Frenhines, Abertawe.
Cynlluniwyd yr ymarferiad, oedd yn cynnwys aelodau criw ac offer o Wylfa Wen Gorsaf Dân Treforys, criw Peiriant ag Ysgol Drofwrdd a Gwasanaeth Ar Alwad Treforys, i wella gallu'r criw i weithio Peiriant ag Ysgol Drofwrdd yn ddiogel ac yn effeithiol wrth osod tŵr dŵr mewn amodau peryglus ar ôl iddi dywyllu.
Roedd y senario hyfforddi yn efelychu llong ar dân yn y dociau, gan roi amgylchedd a tharged realistig i griwiau ymarfer sefydlu a gweithio dan amodau lle mae’r gwelededd yn isel.
Yn ystod yr ymarferiad, cyflawnodd y criw eu targed gweithredol o ddarparu 2,500 litr o ddŵr ar bwysau o 10 bar, gan daflu jet pwerus 40 metr ar y llong. Defnyddiwyd camerâu delweddu thermol yr un pryd, gan ganiatáu i griwiau ar y tir weld mannau gwres a chyfeirio'r jet monitro yn fanwl gywir.
Roedd y Peiriant ag Ysgol Drofwrdd yn gweithredu ar gapasiti llawn drwy gydol yr ymarferiad gyda dŵr yn cael ei bwmpio’n uniongyrchol o'r dociau gan griw Ar Alwad Treforys i'r Ysgol Drofwrdd, gan ganiatáu i'r holl beth redeg ar ddŵr wedi'i ailgylchu a sicrhau nad oedd unrhyw wastraff.

Roedd yr ymarferiad yn llwyddiant ysgubol gyda’r criwiau’n cael gwybodaeth werthfawr mewn lleoliad realistig.
Diolch i'r Associated British Ports am eu cymorth ac i'r holl griwiau a gymerodd ran yn yr amodau oer a gwlyb.