Ddydd Mawrth, 20 Ionawr, cymerodd aelodau criw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) ran mewn ymarferiad hyfforddi o'r enw’r "Gweithio ar Uchder", a gynhaliwyd yng Ngweithfeydd Dur TATA, Port Talbot.
Cynlluniwyd yr ymarferiad aml-asiantaethol, a oedd yn cynnwys aelodau criwiau o Orsafoedd Tân Port Talbot, Pontardawe a Threforys, ynghyd â Thîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru er mwyn gwella gallu'r criw i achub pobl wedi’u hanafu o uchder mawr.
Gweithiodd y tîm gyda'i gilydd i achub dau berson wedi’u hanafu yn llwyddiannus o dŵr 32 metr. Roedd angen ymateb technegol iawn i'r digwyddiad, gyda chriwiau achub â rhaffau y Gwasanaeth Tân yn gweithredu ochr yn ochr â thîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Roedd y senario hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i TATA Steel brofi a mireinio eu protocolau ar gyfer argyfyngau.
Dywedodd y Rheolwr Gwylfa, Christopher Doyle: