Cynhaliwyd yr ymarferiad, a rhoi’r enw addas Ymarferiad Luton, oherwydd tân damweiniol mewn cerbyd trydan a ddigwyddodd mewn maes parcio ym Maes Awyr Luton y llynedd, Mawrth 2024, a ledaenodd i sawl cerbyd.
Galluogodd yr ymarferiad hwn y criwiau ym Mhort Talbot i ymarfer eu hymateb i dân trydanol, gan roi'r cyfle i ddatblygu a mireinio eu parodrwydd ar gyfer digwyddiadau bywyd go iawn.
Bu’r criwiau’r gweithio’n galed gyda'i gilydd i ddiogelu'r lleoliad, gan efelychu tynnu pibell yn uchel oherwydd pibell godi sych diffygiol a defnyddio'r flanced dân newydd ar gyfer ceir trydan.