13.01.2026

Ymarferiadau Hyfforddi Chwilio ac Achub Trefol yn Stadiwm Swansea.com

Yn ddiweddar bu tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru yn cymryd rhan mewn cyfres o ymarferiadau hyfforddi yn stadiwm Swansea.com yng Nglandŵr, Abertawe.

Gan Steffan John



Yn ddiweddar bu tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) yn cymryd rhan mewn cyfres o ymarferiadau hyfforddi yn stadiwm Swansea.com yng Nglandŵr, Abertawe.

Dros yr wythnosau diwethaf, cynhaliwyd cyfres o ymarferiadau hyfforddi ar gyfer Tîm Chwilio ac Achub Trefol Cymru (USAR) yn Stadiwm Swansea.com, cartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe a Thîm Rygbi'r Gweilch.  Cafodd y Tîm gyfle i roi eu parodrwydd ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau mewn lleoliadau mawr ar brawf, a chafwyd cyfleoedd i efelychu amrywiaeth o senarios yn ystod yr ymarferiad.

Mae Tîm USAR Cymru yn cynnwys personél o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru (GTADC), gyda chefnogaeth personél Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru, a gall ymateb i gefnogi criwiau gweithredol mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau.  Mae Tîm USAR Cymru yn cymryd rhan mewn ymarferiadau hyfforddi mewn lleoliadau mawr a chymhleth o’r fath yn rheolaidd. Y lle diwethaf iddyn nhw wneud hyn oedd ym Maes Awyr Southampton, gan roi cyfle i'r tîm hyfforddi mewn senarios realistig.  Cynhaliwyd y sesiynau hyfforddi ar y cyd â staff y stadiwm, gan sicrhau bod perthnasoedd gwaith cadarnhaol yn cael eu meithrin rhwng y ddau barti, a bod y ddau barti yn barod ar gyfer argyfyngau go iawn ac yn meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i amddiffyn aelodau o'r cyhoedd.






Dyma ddywedodd Gareth Lewis, Rheolwr Gorsaf, am y sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd yn Stadiwm Swansea.com:

“Hoffem ddiolch o galon i staff stadiwm Swansea.com am groesawu Tîm USAR Cymru.

Mae cael hyfforddi mewn lleoliad o’r maint yma, a chyda arbenigedd staff y stadiwm, yn gyfraniad gwirioneddol werthfawr i’n parodrwydd a’n diogelwch. Rhoddodd eu cyngor ar reoli digwyddiadau mawr fewnwelediad pwysig i ni, gan sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn hyderus i’r heriau logistaidd a fyddai’n bodoli pe bai’r lleoliad yn llawn.  Y tu hwnt i sgiliau technegol, bydd y cyfle hwn i ymgyfarwyddo â’r lleoliad o fantais fawr i ni pe byddem yn cael galwad i roi cefnogaeth yma.

Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn am y croeso cynnes a gawsom gan bawb yn stadiwm Swansea.com trwy gydol y dydd – roedd cystal fel ein bod yn ystyried ei wneud yn ddigwyddiad rheolaidd ar ein calendr hyfforddi blynyddol."





Mae Tîm USAR Cymru wedi'i leoli yng Nghanolfan Cydnerthedd Cenedlaethol Cymru yng Ngorsaf Dân yr Eglwys Newydd a Chanolfan Hyfforddiant Tân Earlswood GTACGC, ac mae’n un o'r 20 Tîm USAR sydd wedi'u lleoli’n strategol ledled Cymru a Lloegr. Fe’u darperir o dan Raglen Dimensiwn Newydd Llywodraeth y DU.  Mae Tîm USAR Cymru ar alwad 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i ymateb i ddigwyddiadau a thrychinebau ledled y DU, i ddarparu gwasanaeth chwilio ac achub ac i gefnogi ymdrechion dyngarol.

Erthygl Flaenorol