29.11.2024

Ymgyrch Nadolig #DathluDiogel

Ym mis Rhagfyr, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dod ag ysbryd y Nadolig i’n negeseuon am ymwybyddiaeth tân a diogelwch gyda lansiad #DathluDiogel—ymgyrch Nadolig wedi ei seilio ar y ffilm Nadolig boblogaidd ‘Love Actually’ i helpu i'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel dros yr ŵyl.

Gan Rachel Kestin



Ym mis Rhagfyr, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn dod ag ysbryd y Nadolig i’n negeseuon am ymwybyddiaeth tân a diogelwch gyda lansiad #DathluDiogel—ymgyrch Nadolig wedi ei seilio ar y ffilm Nadolig boblogaidd ‘Love Actually’ i helpu i'ch cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel dros yr ŵyl.

Mae'r Nadolig yn dod, gyda’i nosweithiau tywyllach, tymheredd is, a llu o heriau tymhorol. Gyda chostau byw yn bryder mawr i lawer, rydym yn eich annog i ystyried ffyrdd eraill o wresogi a goleuo eich cartrefi yn ddiogel. Efallai y bydd llawer yn troi at wresogyddion cludadwy, canhwyllau, neu oleuadau Nadolig, a gall pob un ohonynt olygu risgiau ychwanegol. Rydyn ni eisiau eich helpu chi a'ch teulu i gadw'n ddiogel y Nadolig hwn oherwydd mae #DathluDiogel yn bwysig i ni gyd!

Dywedodd y Pennaeth Diogelwch Cymunedol Steven Davies:

"Rydyn ni'n gwybod y bydd teuluoedd ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru yn paratoi ar gyfer Nadolig prysur a llawen. Ac rydym yn gobeithio, trwy ddefnyddio ffilm boblogaidd fel cefndir ar gyfer ein hymgyrch, y gallwn wneud ein negeseuon diogelwch yn berthnasol ac yn hawdd eu cofio. Diogelwch yw ein prif nod, fel y gall teuluoedd fwynhau tymor yr ŵyl heb bryder."



Trwy gydol mis Rhagfyr, byddwn yn ail-greu eiliadau eiconig o ‘Love Actually’ i gyfleu neges am ddiogelwch, gan gynnig awgrymiadau ymarferol ar ddiogelwch yn y gegin, atal tân, gyrru yn y gaeaf, awgrymiadau a chyngor, i gyd yn llawn hwyl yr ŵyl. O "oleuo'r tymor" yn ddiogel i sicrhau bod eich cartref yn ddiogel rhag tân, #DathluDiogel yw eich ffynhonnell ar gyfer cyngor hanfodol ar ddiogelwch y Nadolig.

Aeth Steven yn ei flaen;

"Rydym yn annog pawb i sicrhau bod eu cartrefi'n ddiogel yn erbyn yr heriau a ddaw yn sgil misoedd y gaeaf. Rydym yn cynnig ymweliadau Diogel ac Iach rhad ac am ddim, sef archwiliadau diogelwch cartref sy’n rhoi cyngor ac offer hanfodol fel larymau mwg a chyngor, heb unrhyw gost i chi."



Mae'r gaeaf hefyd yn dod â risgiau ychwanegol, gan gynnwys tymheredd rhewllyd, rhew ar y ffyrdd a’i gwneud yn anoddach i weld yn bell wrth yrru. Mae'n bwysicach nag erioed i wirio bod eich larymau mwg yn gweithio, bod eich cerbydau'n addas i'r ffordd a'ch simnai a'ch offer trydanol mewn cyflwr da.

Pwysleisiodd Peter Greenslade, Pennaeth Corfforaethol Rheoli Risg Cymunedol: 

"Mae misoedd y gaeaf yn golygu mwy o beryglon diogelwch yn y cartref ac ar y ffyrdd. Gall pethau syml fel sicrhau bod eich larwm yn gweithio, clirio’ch dreif, sicrhau bod eich ffliwiau a'ch simneiau’n cael eu hysgubo, defnyddio'r tanwydd cywir ar gyfer stofiau llosgi coed / tanau agored a sicrhau bod offer gwresogi a choginio’n cael eu gwasanaethu'n iawn wneud gwahaniaeth enfawr. Gall gwybod beth i’w wneud a pharatoi yn iawn ein helpu ni i gyd i fwynhau gaeaf mwy diogel."



Bob dydd drwy gydol mis Rhagfyr, bydd GTACGC yn rhannu negeseuon #DathluDiogel ar draws y cyfryngau cymdeithasol, gydag awgrymiadau gwych i helpu i sicrhau Nadolig diogel a hapus. O ddiogelwch yn y cartref i ddiogelwch ar y ffyrdd a phopeth arall yn y canol - cadwch lygad am ymddangosiad arbennig gan ein masgot hoffus Sbarc! Mae ein gwefan yn cynnig cyfoeth o wybodaeth am ddiogelwch tymhorol hefyd!

Cadwch mewn cysylltiad a dilynwch ni am ddiweddariadau dyddiol ac awgrymiadau diogelwch:

X- @mawwfire

Facebook - @mawwfire

Instagram - @mawwfire_rescue

Gyda'n gilydd, gadewch i ni wneud #DathluDiogel yn ganolog i’r Nadolig eleni.

 

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf