Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) yn Eisteddfod yr Urdd Parc Margam yr wythnos nesaf, 26 – 31 Mai 2025.
Dewch i ymweld â’n stondin – rhif 49-50, bydd yna amrywiaeth o wybodaeth a gweithgareddau diogelwch tân ar eich cyfer trwy gydol yr wythnos. Cewch hefyd y cyfle i sgwrsio gyda’n tîm Diogelwch Cymunedol, cofrestru ar gyfer ymweliad Diogel ac Iach yn ogystal â derbyn cyngor Diogelwch Trydanol, Diogelwch yr Haf a llawer mwy. Bydd Sbarc, masgot y Gwasanaeth hefyd yna yn ystod yr wythnos!
Os byddwch chi’n mynd i Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf ac yn ymweld â’n stondin, rhannwch eich lluniau gyda ni a dilynwch ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau dyddiol – Facebook, Instagram a X.
Edrychwn ymlaen at eich gweld chi.
