Ddydd Gwener, 20 Mehefin, croesawodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (GTACGC) Uchel Siryf Gorllewin Morgannwg Diana Stroia, Uchel Siryf Dyfed Ann Jones DL ac Uchel Siryf Powys Sally Roberts ar gyfer ymweliad blynyddol â Phencadlys y Gwasanaeth a Gorsaf Dân Caerfyrddin.
Mae'r tri Uchel Siryf newydd dyngu llw ac roedden nhw’n awyddus i ddysgu mwy am sut mae'r Gwasanaeth yn gweithio a'r gefnogaeth rydyn ni'n ei roi i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.
I ddechrau, fe wnaethant gyfarfod â'n Prif Swyddog Tân Roger Thomas KFSM a'u cyflwynodd i'n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, lle buont yn trafod ein gwaith Ymateb Brys, Atal a Diogelu a'n Cynllun Rheoli Risg Cymunedol (CRhRC 2040).

Yna daeth taith o amgylch Gorsaf Dân Caerfyrddin, lle cawsant gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o'n tîm Diogelwch Cymunedol a roddodd drosolwg o'r gwaith maen nhw’n ei wneud i gadw ein cymunedau'n ddiogel.
I gloi'r prynhawn, rhoddodd y criw o Orsaf Dân Caerfyrddin gyflwyniad ar y cit a'r offer arbenigol sy’n cael eu cario ar ein peiriannau rheng flaen.

Hoffem ddiolch i'r tri Uchel Siryf am gymryd yr amser i ddod i ymweld â ni ac edrychwn ymlaen at eu gweld eto yn y dyfodol.