01.02.2025

Yn Eich Cadw Chi a'ch Cartref Yn Ddiogel Yr Wythnos Diogelwch Trydanol Hon

Mae Wythnos Diogelwch Trydanol 2024 yn dechrau yr wythnos hon. Mae trydan yn rhan o'n bywydau: rydyn ni'n ei ddefnyddio o'r eiliad rydyn ni'n deffro, trwy'r dydd, a hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu. 

Gan Rachel Kestin



Mae Wythnos Diogelwch Trydanol 2025 (3-9 Chwefor) yn dechrau yr wythnos hon. Mae trydan yn rhan o'n bywydau: rydyn ni'n ei ddefnyddio o'r eiliad rydyn ni'n deffro, trwy'r dydd, a hyd yn oed pan fyddwn ni'n cysgu. 

Gyda’r gaeaf ar ein gwarthaf a’n biliau ynni yn codi, rydym yn eich annog i fanteisio ar y gofrestr offer rhad ac am ddim hon: Home - Register My Appliance (gwefan Saesneg). Mae'r gwasanaeth hwn hefyd yn eich hysbysu os oes atgyweiriad diogelwch ar eich cynnyrch neu os yw wedi cael ei adalw. Mae'n bwysig nodi nad oes angen prawf prynu arnoch chi, felly mae'n dal yn bosib cofrestru os gwnaethoch chi ei brynu'n ail-law neu ei dderbyn yn anrheg. Mae sicrhau bod ein hoffer trydanol yn gweithio’n iawn ac yn cael eu cadw mewn cyflwr da yn ffordd sicr o wneud iddyn nhw bara mor hir â phosib, o arbed arian ac o gadw pawb yn ddiogel. 

Gyda nwyddau gwyn trydanol domestig, fel peiriannau golchi llestri, peiriannau sychu dillad, a rhewgelloedd yn dal i fod yn gyfrifol am dros hanner yr holl danau trydanol yng Nghymru, gofynnwn i chi ddarllen ein hawgrymiadau diogelwch a’n cyngor isod:

  1. Prynwch gan werthwr neu wneuthurwr ag enw da bob tro, a pheidiwch byth â phrynu nwyddau gwyn ail-law.
  2. Cofrestrwch eich offer gyda'r gwneuthurwr bob tro er mwyn iddyn nhw roi gwybod i chi os oes problem.
  3. Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr.
  4. Os ydych chi’n poeni am declyn yn eich cartref, defnyddiwch wiriwr cynnyrch ar-lein Electrical Safety First i weld a yw wedi’i adalw.
  5. Ewch i whitegoodsafety.com (yn Saesneg) i gael cyngor ar sut i ddefnyddio'ch offer yn ddiogel.

Rydyn ni’n gweld defnydd cynyddol o e-feiciau ac e-sgwteri, ac o ganlyniad daw pryder diogelwch tân cyfatebol sy'n gysylltiedig â'u gwefru a'u storio. Mae GTACGC wedi gweld cynnydd yn nifer y digwyddiadau yn ymwneud ag e-feiciau ac e-sgwteri yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Os ydych chi'n berchen ar e-feic neu e-sgwter, neu'n ystyried prynu un, dylech ddilyn y camau isod er mwyn i chi allu eu mwynhau nhw yn ddiogel a lleihau'r risg o danau:

  • Dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob amser wrth wefru a thynnwch y plwg o'ch gwefrydd pan fydd wedi gorffen gwefru.
  • Gwefrwch fatris tra byddwch chi'n effro ac yn wyliadwrus, er mwyn i chi allu ymateb yn gyflym os bydd tân yn digwydd. Peidiwch â gadael batris i wefru tra byddwch chi'n cysgu neu i ffwrdd o'r cartref.
  • Peidiwch â gorchuddio gwefrwyr na phecynnau batri wrth wefru oherwydd gallai hyn arwain at orboethi neu dân.
  • Peidiwch â gwefru batris na storio eich e-feic neu e-sgwter ger deunyddiau llosgadwy neu fflamadwy.
  • Rhowch y gorau i defnyddio'ch gwefrydd neu'ch batri yn syth os byddwch chi'n sylwi arno'n gorboethi, yn anffurfio, yn gwneud synau hisian neu gracio, yn arogli, yn fyglyd neu’n perfformio'n wael.
  • Os bydd tân yn digwydd i e-feic, e-sgwter, neu fatri ïon lithiwm, peidiwch â cheisio diffodd y tân. Ewch allan, arhoswch allan, a ffoniwch 999.

Dywedodd Wayne Thomas, Rheolwr Diogelwch Tân yn y Cartref:

"Mae camddefnyddio offer trydanol yn achosi nifer fawr o danau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, ac mae'n hawdd atal y tanau yma. Gall tân mewn tŷ gael effeithiau trychinebus a hirdymor. Yn ogystal â dinistrio eiddo ac atgofion, mae'n gallu'ch rhoi chi a'ch anwyliaid mewn perygl. Rydyn ni'n annog pawb i ddilyn ein cyngor syml a fydd yn eu helpu i gadw'n ddiogel yn eu cartrefi".

Erthygl Flaenorol Erthygl Nesaf