Ein Harfbais

Dysgwch fwy am Arfbais Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.




Cefndir

Wedi diddymu y dair brigâd dân blaenorol yn Nyfed, Powys a Gorllewin Morgannwg ar Fawrth 31ain, 1996, roedd gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru gyfle i gynllunio Arfbais newydd.

Roedd aelodau’r Awdurdod a’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn gwbl gytun y dylai’r Arfbais newydd adlewyrchu prif nodweddion yr ardal ac fe dderbyniwyd y dyluniad newydd.

Dyluniad

Mae elfen ganolog y dyluniad yn cynnwys tri masgl neu ddiemwnt ceuol yn rhannu’r cyfanwaith yn llorweddol ac yn ei wrthnewid mewn gwyrdd a gwyn.  Un dehongliad posib yw fod y tri diemwnt yn cynrychioli’r dair ardal sydd o fewn ffiniau’r Gwasanaeth Tân ac Achub.  Maent hefyd yn awgrymu mynyddoedd a bryniau Canolbarth a Gorllewin Cymru, sy’n cael eu gwrthnewid ac yn cael eu hadlewyrchu mewn dŵr, sef llynnoedd, afonydd ac arfordir yr ardal.  Ceir hefyd awgrym o’r llythrennau ‘M’ ac ‘W’ yn y gwaelod, sef ‘Mid’ a ‘West’.

Mae pigau a gwaelodion y masglau yn ymddangos fel coeden spriws addurlliol.  O fewn pob masgl ceir olwyn ddanned i gynrychioli ardaloedd diwydiannol y Gwasanaeth Tân ac Achub, sef Abertawe, Port Talbot, Llanelli ac Aberdaugleddau.

Mae’r dyluniad yn meddu ar symlrwydd ac arwahanrwydd, tra hefyd yn adlewyrchu dymuniad y Gwasanaeth Tân ac Achub i gyfuno dŵr ac arfordir garw, cefn gwlad, coedwigoedd a diwydiant.