Gwregysau Diogelwch
Gwregysau diogelwch yw eich llinell amddiffyn gyntaf mewn unrhyw wrthdrawiad, ni waeth pa mor gyflym y mae'r cerbyd yr ydych ynddo yn teithio.
Byddant yn eich helpu i beidio â chael eich taflu o'r cerbyd, a gallant olygu'r gwahaniaeth rhwng anaf sy'n newid bywyd neu farwolaeth, neu wella o wrthdrawiad a mwynhau'r un ansawdd bywyd ag o'r blaen.
Os bydd un unigolyn mewn cerbyd heb wisgo ei wregys diogelwch (a byddai hyn yn berthnasol i gŵn neu unrhyw beth sy'n rhydd yn y cerbyd), yna bydd yn peri risg i bawb arall yn y cerbyd. Mewn gwrthdrawiad, bydd yr unigolyn hwn yn cael ei daflu o gwmpas y tu mewn i'r cerbyd, gan anafu'r teithwyr eraill.
Seddi Ceir Plant
Os ydych yn caru eich plant, rhowch gyfle iddynt mewn gwrthdrawiad trwy fod â sedd plentyn sydd wedi'i gosod yn gywir ac sy'n ffitio'r car a'ch plentyn yn iawn.
Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â'r cwmni a ddarparodd y sedd. Mae hefyd yn bosibl cael rhagor o wybodaeth a chyngor ar wregysau diogelwch a seddi ceir plant trwy fynd i safle we The Royal Society for the Prevention of Accidents (RoSPA) (yn agor yn ffenest/tab newydd).
Beth yw’r 5 Angheuol?
- Gyrru’n Ddiofal
- Gyrru dan Ddylanwad Alcohol a Chyffuriau
- Methu â gwisgo Gwregys Diogelwch
- Defnyddio Ffôn Symudol (neu Ddyfais Llywio â Lloeren)
- Goryrru