Ceisiadau Electronig Rheoli Adeiladu



Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yw'r awdurdod gorfodi ar gyfer Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 mewn perthynas ag adeiladau priodol sydd wedi'u lleoli yn ardal y Gwasanaeth.

Fel yr awdurdod gorfodi diogelwch tân ar gyfer adeiladau o'r fath, mae cyrff rheoli adeiladu yn ymgynghori â'r Gwasanaeth lle mae cyrff o'r fath yn ymwneud â gwirio cydymffurfedd gwaith adeiladu perthnasol â'r Rheoliadau Adeiladu.

O fis Ebrill 2017, bydd yn rhaid i'r holl ymgynghoriadau Rheoliadau Adeiladu (gan gynnwys ceisiadau cyn ymgynghori, ceisiadau am wybodaeth ynghylch Rheoliadau Adeiladu, Ceisiadau Cynllunio, Hysbysiadau Cychwynnol, Tystysgrifau Terfynol, Hysbysiadau Dymchwel, ac ati) gael eu cyflwyno'n electronig trwy'r cyfeiriad e-bost pwrpasol:  bregs@mawwfire.gov.uk

Yna byddant yn cael eu prosesu gan dîm Rheoliadau Adeiladu y Gwasanaeth.

Canllawiau ar gyfer Cyrff Rheoli Adeiladu ac Arolygwyr Cymeradwy
Er mwyn sicrhau bod yr holl ddogfennau perthnasol yn cael eu hymgorffori gyda'r cais perthnasol, mae'n ofynnol i gyrff Rheoli Adeiladu ac Arolygwyr Cymeradwy cwblhau dogfen Atodiad J (docx, Saesnegyn unig, 35Kb) a cynnwys llythyr eglurhaol, gan ddefnyddio eich papur pennawd, a nodi:

  • cyfeiriad post llawn yr adeilad/ardal sy'n destun i'r ymgynghoriad
  • eich cyfeirnod unigryw
  • eich manylion cyswllt

Byddem yn gofyn bod y cynlluniau sy'n berthnasol i elfen diogelwch tân y cais ynghyd â chynllun y lleoliad mewn fformat PDF.  Er mwyn ei gwneud yn haws adnabod y cynlluniau, byddem yn gofyn os byddwch yn anfon sawl neges e-bost gydag atodiadau, fod pob neges e-bost yn nodi eich cyfeirnod a rhif y neges e-bost, e.e. 1 o 3, 2 o 3, ac ati.

Dylai'r holl ddogfennau perthnasol yn ogystal â'r llythyr eglurhaol gael eu hanfon i'r cyfeiriad e-bost uchod.  

Os bydd y neges e-bost a'r atodiadau yn dod i law yn llwyddiannus, byddant yn cael eu prosesu a'u dyrannu i aelod o'r tîm Rheoliadau Adeiladu, a bydd y Corff Rheoli Adeiladu/Arolygydd Cymeradwy yn cael neges e-bost yn cadarnhau eu bod wedi cyrraedd, yn cael eu prosesu, ac yn cael eu dyrannu. Pe byddai'r Corff Rheoli Adeiladu/Arolygydd Cymeradwy yn ei gwneud yn ofynnol i aelod penodol o'n tîm Rheoliadau Adeiladu gael y cais, dylid gofyn am hyn yn y neges e-bost gychwynnol a gyflwynir.  

Cyrchir y negeseuon e-bost bob dydd, ond os bydd y cais yn dod i law ar ôl pedwar o'r gloch, bernir ei fod wedi dod i law ar y diwrnod gwaith nesaf, mae hyn er mwyn cydymffurfio â rheolau sy'n llywodraethu'r broses o ran cyfathrebiadau electronig sy'n dod i law.  

Bydd Cyrff Rheoli Adeiladu/Arolygwyr Cymeradwy yn cael ein hymateb i'r ymgynghoriad cyn pen y gofyniad statudol, sef 15 diwrnod, a hynny trwy'r cyfeiriad e-bost uchod.