Os ydych yn dymuno cwyno neu os oes gennych bryderon am ddiogelwch tân eiddo, cysylltwch â ni ar 0370 60 60 699, a gofynnwch am yr Adran Diogelwch Busnesau ar gyfer yr ardal. Neu gallwch gysylltu â ni ar-lein.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gyfrifol am orfodi Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (yn agor yn ffenest/tab newydd) yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, fel awdurdod gorfodi, wedi mabwysiadu egwyddorion y Concordat Gorfodi, felly bydd yn gweithio i’r safonau sydd wedi’u nodi yn y Concordat hwnnw. Er mwyn bodloni egwyddor y Concordat o ran cysondeb, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru wedi nodi polisi clir ar gyfer ymchwilio i gwynion a phryderon ynghylch diogelwch tân a’r camau sydd i’w cymryd.
Mae modd derbyn pryderon a chwynion ynghylch materion diogelwch tân mewn eiddo masnachol ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw leoliad o fewn y Gwasanaeth. Bydd gofyn cymryd camau ar unwaith pan fydd eich cwyn wedi cael ei dderbyn, ac mewn achosion o’r fath, mae’n hollbwysig bod eich cwyn yn cael ei thrin yn unol â chanllawiau’r Gwasanaeth, gan Swyddog Diogelwch Tân Busnesau gwarantedig priodol.
Er mwyn cydymffurfio â Chôd Rheolyddion 2014 bydd y gwasanaeth yn dilyn yr egwyddor “casglu unwaith, defnyddio sawl gwaith” wrth ofyn am wybodaeth gan y rheini rydym yn eu rheoleiddio, a phan fydd y gyfraith yn caniatáu hynny, bydd y gwasanaeth yn cytuno i rannu gwybodaeth â rheolyddion eraill am fusnesau a chyrff eraill y maent yn eu rheoleiddio, er mwyn helpu i dargedu adnoddau a gweithgareddau a chyfyngu ar ddyblygu.
Mae modd rhannu unrhyw gwynion rydym yn eu derbyn, yn gyffredinol, rhwng y categorïau hyn:
- Unigolyn yn mynegi pryder gwirioneddol am yr hyn sy’n ymddangos iddo ef fel safon ddiffygiol o ran diogelwch tân mewn eiddo penodol. Y rheswm dros roi gwybod i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am y sefyllfa yw er mwyn codi'r safonau diogelwch tân ac er mwyn atal unrhyw beth rhag digwydd o ganlyniad uniongyrchol i'r diffyg.
- Pryder maleisus heb unrhyw dystiolaeth o ddiffyg hysbys. Y rheswm dros y math yma o gŵyn fel rheol yw drwgdeimlad rhwng y ddau barti, gyda’r posibilrwydd y byddai’r achwynydd yn cael budd economaidd a/neu’n peri aflonyddwch i’r sawl y mae’r gŵyn yn ymwneud ag ef.
Bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n delio â chwynion am ddiogelwch tân mewn sawl gwahanol ffordd, e.e. yn bersonol, dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost, ac ati.
Anogir yr unigolion sy’n mynegi pryderon i roi eu manylion cyswllt pan fyddant yn cyflwyno’r gŵyn. Fodd bynnag, byddwn yn derbyn ac yn cofnodi unrhyw gwynion dienw hefyd, ac ymchwilir i’r rhain yn ôl disgresiwn y Swyddog Ymchwilio.
Pan fydd yr achwynydd yn hysbys, rhaid cadw cyfrinachedd er mwyn peidio â datgelu enw’r achwynydd. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw’n gwbl gyfrinachol. Mae hyn yn bwysig er mwyn i achwynwyr posib beidio â phoeni y byddai rhoi manylion yn gallu arwain at wahaniaethu neu gamau gweithredu negyddol eraill tuag atynt. Fodd bynnag, fe all fod rhai amgylchiadau priodol lle byddai angen rhoi gwybod i asiantaethau eraill pwy yw achwynydd.
Gallwch fod yn dawel eich meddwl yr ymchwilir yn drylwyr i unrhyw bryderon sydd gennych.
Os ydych yn dymuno cwyno neu os oes gennych bryderon am ddiogelwch tân eiddo, cysylltwch â ni ar 0370 60 60 699, a gofynnwch am yr Adran Diogelwch Busnesau ar gyfer yr ardal. Neu gallwch gysylltu â ni ar-lein.
Mae gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Bolisi Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion ar wahân ar gyfer aelodau’r cyhoedd, sy’n ymwneud ag unrhyw faterion a allai fod wedi codi mewn unrhyw gapasiti neu sefyllfa sy’n ymwneud â darparu gwasanaeth, ac rydym yn ymdrin â hyn yn y ddogfen 'Rydym ni'n Gwrando'.